cyfarwyddwr ffilm a aned yn Notasulga yn 1891 From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur dylanwadol Affro-Americanaidd oedd Zora Neale Hurston (7 Ionawr 1891 - 28 Ionawr 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel anthropolegydd, hanesydd, nofelydd newyddiadurwr ac arbenigwr mewn llên gwerin.[1][2] Darluniodd yn ei nofelau y frwydr hiliol yn Ne'r Unol Daleithiau a'r ymarfer o Vodou yn Haiti.[3][4][5][6][7][8] [9]
Zora Neale Hurston | |
---|---|
Ganwyd | 7 Ionawr 1891 Notasulga, Alabama |
Bu farw | 28 Ionawr 1960 Fort Pierce, Florida |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | anthropolegydd, hanesydd, nofelydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, arbenigwr mewn llên gwerin, ymgyrchydd hawliau sifil, dramodydd, cyfarwyddwr ffilm |
Adnabyddus am | Their Eyes Were Watching God |
Prif ddylanwad | Fannie Hurst, Franz Boas, Ruth Benedict |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Mudiad | Dadeni Harlem |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Hall of Fame Merched Florida, Hall of Fame Artistiaid Florida, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Cymrodoriaeth Guggenheim |
Gwefan | https://zoranealehurston.com |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Notasulga, Alabama a bu farw yn Fort Pierce o strôc ond symudodd y teulu i Eatonville, Florida, ym 1894. Mae Eatonville yn lleoliad ar gyfer llawer o'i straeon. Mae bellach yn safle'r 'Gŵyl Zora!' a gynhelir bob blwyddyn er anrhydedd iddi.[10] Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Howard, Prifysgol Columbia a Choleg Barnard. [11][12]
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Their Eyes Were Watching God (1937).[13] Ysgrifennodd hefyd dros 50 o straeon byrion, dramâu a thraethodau.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Weriniaethol.
Yn ei gyrfa gynnar, cynhaliodd Hurston ymchwil anthropolegol ac ethnograffig tra'r oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Barnard a Phrifysgol Columbia. Roedd ganddi ddiddordeb mewn llên gwerin Affricanaidd-Americanaidd a Charibïaidd a chyfrannodd yn helaeth at hunaniaeth y gymuned honno.[angen ffynhonnell]
Mae Hurston yn gweithio ar y diwylliant Affro-Americanaidd ac ar y trafferthion o fod yn fenyw Affro-Americanaidd. Nid oedd y byd llenyddol yn cydnabod ei nofelau am rai degawdau, ac fe'i hanwybyddwyd gan lawer. Cafodd y diddordeb ei adfywio yn 1975 ar ôl i'r awdur Alice Walker gyhoeddi erthygl, In Search of Zora Neale Hurston, yn rhifyn mis Mawrth y flwyddyn honno o Ms..
Roedd yn rhaid aros tan 2001 cyn i'w gwaith Every Tongue Got to Confess gael ei gyhoeddi; dyma gasgliad o straeon gwerin a sgwennodd yn y 1920au, a gadwyd dan glo yn archifdy'r Smithsonian.[14] Ac yn 2018, cyhoeddwyd Barracoon: The Story of the Last "Black Cargo", llyfr am fywyd Cudjoe Lewis (Kossola).[15]
Hurston oedd y chweched o wyth o blant John Hurston a Lucy Ann Hurston (née Potts). Roedd pob un o'i phedwar teidiau a neiniau wedi cael eu geni i gaethwasiaeth. Roedd ei thad yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr ac yn gyfranddaliwr, a ddaeth yn saer coed yn ddiweddarach ac roedd ei mam yn athrawes ysgol. Fe'i ganed yn Notasulga, Alabama, ar Ionawr 7, 1891, lle cafodd ei thad ei fagu a lle roedd ei thaid (tad ei thad) yn bregethwr yn eglwys y Bedyddwyr.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.