Zoom Video Communications
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cwmni Americanaidd sy'n darparu gwasanaethau cynadledda o bell yw Zoom Video Communications. Mae ei bencadlys yn San Jose, Califfornia. Mae ei wasanaethau'n cynnwys cynadledda fideo, cyfarfodydd ar-lein, sgwrsio a chydweithio symudol.
Ffeithiau sydyn Math o fusnes, Byrfodd stoc ...
![]() | |
Math o fusnes | Public |
---|---|
Byrfodd stoc | NASDAQ: ZM (Class A) |
Sefydlwyd | 2011; 13 blynedd yn ôl (2011) |
Sefydlydd | Eric Yuan |
Pencadlys | San Jose, California, U.S. |
Pobl allweddol | Eric Yuan, founder and CEO |
Gwasanaethau | Zoom Meetings Zoom Premium Audio Zoom Business IM Zoom Video Webinar Zoom Rooms Zoom H.323/SIP Connector Zoom Developer Platform |
Gweithwyr | 1,958 (2019) |
zoom.us |
Cau
Sefydlwyd Zoom yn 2011 gan Eric Yuan. Dechreuodd y gwasanaeth ym mis Ionawr 2013; erbyn mis Mai 2013 honnodd fod ganddo filiwn o gyfranogwyr.
Mae meddalwedd cynadledda Zoom yn boblogaidd mewn sawl gwlad ledled y byd am fod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn ddibynadwy. Serch hynny, mae'r cwmni wedi bod yn destun dadlau sylweddol oherwydd nifer o wendidau diogelwch a geir yn ei feddalwedd, yn ogystal â honiadau yn ystod y pandemig coronafirws 2019–20 o breifatrwydd ac arferion diogelwch gwael.[1]