![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/12/Main_building_of_The_Cathedral_School%252C_Llandaff%252C_Cardiff%252C_Wales.jpg/640px-Main_building_of_The_Cathedral_School%252C_Llandaff%252C_Cardiff%252C_Wales.jpg&w=640&q=50)
Ysgol y Gadeirlan, Llandaf
ysgol breifat yn Llandaf / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgol breifat yn Llandaf, Caerdydd, yw Ysgol y Gadeirlan, Llandaf. Mae ganddi dros 800 o ddisgyblion. Fe'i sefydlwyd yn 1880 fel ysgol gôr ar gyfer Eglwys Gadeiriol Llandaf. Er ei bod wedi ymestyn y tu hwnt i'r pwrpas gwreiddiol hwnnw, mae'n parhau i ddarparu coryddion ar gyfer yr eglwys gadeiriol. Mewn gwirionedd, dyma'r unig ysgol gôr Anglicanaidd sydd wedi goroesi yng Nghymru. Mae bellach yn rhan o grŵp o Ysgolion Woodard, sy'n gymdeithas fawr o ysgolion Anglicanaidd ledled Cymru a Lloegr.
Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
![]() | |
Math | ysgol breifat ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Eglwys Gadeiriol Llandaf ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ysgol y Gadeirlan ![]() |
Sir | Llandaf ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 22.3 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4936°N 3.21603°W ![]() |
Cod post | CF5 2YH ![]() |
![]() | |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys yng Nghymru ![]() |
Cau
Lleolwyd yr ysgol yn wreiddiol yn hen dŷ Esgob Llandaf. Dyma ran hynaf yr ysgol bresennol, ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II*.[1]