From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Nhre-gŵyr, sir Abertawe, De Cymru, yw Ysgol Gyfun Gŵyr.
Ysgol Gyfun Gŵyr | |
---|---|
Arwyddair | Gorau byw, cyd-fyw |
Sefydlwyd | 1984 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg |
Pennaeth | Mr Dafydd Jenkins |
Cadeirydd | Miss Aldyth Williams |
Lleoliad | Stryd Talbot, Abertawe, Sir Abertawe, Cymru, SA4 3DB |
AALl | Cyngor Dinas Abertawe |
Disgyblion | 924[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Llysoedd | Branwen, Caradog, Dylan, Gwenllian, Llŷr, Nudd, Olwen, Peredur. |
Gwefan | www.yggwyr.org.uk/ |
Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 1984. Cyn hynny, bu'n rhaid i blant Abertawe deithio i Ysgol Gyfun Ystalyfera er mwyn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y Pennaeth cyntaf oedd Mr. Vivian Thomas, ac fe'i olynwyd gan Dr T. Neville Daniel. Ar ymddeoliad Dr. Daniel yn 2002, penodwyd Mrs. Katherine J. Davies yn Bennaeth ar yr ysgol. Yn dilyn secondiad o ddwy flynedd iddi i Lywodraeth Cymru, penodwyd Mr Dafydd Jenkins yn Bennaeth Gweithredol ar yr Ysgol. Gwnaed y penodiad hwn yn barhaol ym mis Ebrill 2019.
Bellach y mae'n un o ddwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ninas a Sir Abertawe. Sefydlwyd ei chwaer ysgol, sef Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, yn 2003 er mwyn ymateb i'r cynnydd aruthrol a fu yn y sector cyfrwng Gymraeg. Yr ysgolion cynradd sy'n bwydo Ysgol Gyfun Gŵyr yw Ysgol Gymraeg Bryniago, Ysgol Gymraeg Pontybrenin, Ysgol y Login Fach, Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, ac Ysgol Gynradd Bryn-y-mor.
Ym mis Mawrth 2009, cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y bydd gan yr ysgol Ganolfan Addysgu Arbenigol er mwyn diwallu anghenion arbennig disgyblion rhwng 11 a 18 oed. Agorwyd hon ym mis Medi 2009.[2]
Ym mis Mai 2011, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad data a ddangosai sut y gwnaeth disgyblion yr ysgol yn eu arholiadau TGAU o'u gymharu â'r targedau a osodwyd i'r disgyblion pan oeddent yn 11 oed. Daeth yr ysgol yn ail yng Nghymru gyda gwerth atodol o 17.48.[3]
Yn Adroddiad Arolygaeth Estyn ym mis Ionawr 2011, dywedwyd bod yr ysgol yn "rhagorol" gyda disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4 yn cyflawni'n eithriadol.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.