Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
ysgol uwchradd yn Aberystwyth, Ceredigion / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgol uwchradd gyfun gymunedol cyfrwng Cymraeg yn nhref glan-môr Aberystwyth yw Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig ac fe'i henwyd ar ôl yr hen gantref o'r un enw (Penweddig). Sefydlwyd yr ysgol yn 1973[3] fel ysgol ddwyieithog i blant gogledd Sir Ceredigion, ond ysgol Gymraeg yw hi bellach. Noda Prospectws yr ysgol mai'r 'Gymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a hi hefyd yw cyfrwng y rhan fwyaf o’r gwersi. Mae cynnal Cymreictod o fewn yr ysgol, y gymuned leol a thu hwnt yn rhan ganolog o waith yr ysgol.' Nodir hefyd fod gwaith dyngarol yn elfen amlwg o waith a thraddodiad yr ysgol.[4] Mae gan yr ysgol tua 600 o ddisgyblion ar y gofrestr.
Math | ysgol, ysgol ddwyieithog |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llangawsai |
Sir | Aberystwyth, Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.41°N 4.07°W |
Cod post | SY23 3QN |
Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig | |
---|---|
Sefydlwyd | 1973 |
Math | Ysgol Gyfun Gymunedol[1] |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Lleoliad | Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 3QN |
AALl | Cyngor Sir Ceredigion |
Disgyblion | tua 660 (2005)[2] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Du |
Gwefan | penweddig.ceredigion.sch.uk/cy/ |
Mae canlyniadau arholiadau allanol, ar bob lefel, yn sylweddol uwch na chanlyniadau cyfartalog Cymru ac mae'r ysgol ymhlith yr ugain ysgol orau yng Nghymru. Mae bron traean o’r disgyblion yn derbyn gwersi offerynnol neu leisiol a cheir adnoddau da, gyda 7 labordy a 7 gweithdy celf a dylunio a thechnoleg.[5]