Ynysoedd y Moelrhoniaid
grwp o ynysoedd bychan, Ynys Môn / From Wikipedia, the free encyclopedia
Casgliad o ynysoedd creigiog yw Ynysoedd y Moelrhoniaid (Saesneg: The Skerries) (cyfeiriad grid SH268948). Mae'r ynysoedd yn mesur tua 17 hectar (42 erw) ac yn gorwedd tua 3 km (1.5 milltir) oddi ar Trwyn y Gadair yng ngogledd orllewin Ynys Môn. Mae'r ynysoedd yn berchen i Trinity House ers 1841[1] ac mae goleudy wedi sefyll ar yr ynysoedd ers 1717[1].
Math | ffurfiant craig, grŵp o ynysoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cylch-y-Garn |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.422°N 4.608°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae'r ynysoedd yn nythfa bwysig i Fôr-wenoliaid y Gogledd, gyda bron i 4,000 o barau yn nythu yno yn 2017.
Daw tarddiad yr enw "Moelrhoniaid" o'r morloi sydd i'w gweld o amgylch yr ynysoedd[2] tra bod yr enw Saesneg "Skerries" yn dod o'r gair Llychlyneg "sker" sy'n golygu ynys greigiog fechan[3].
Ceir y cofnod cyntaf am yr ynysoedd yn 1535 a nodir eu bod yn eiddo i Abaty Aberconwy cyn iddo gael ei ddiddymu yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno. Dywedir fod esgobion Conwy yn arfer defnyddio'r ynys fel encil ac i bysgota. Nid oes olion archeolegol ar yr ynys o'r cyfnod hwn, ond ceir map cynnar a grëwyd gan William Williams yn 1734. Ymddengys bod tair rhan o'r Moelrhoniaid wedi cael enwau sy'n cyfeirio at amrywiol 'fannau gorffwys' yn amser yr esgobion. Enwyd bwlch deheuol yr ynys ganolog yn 'Gorffwyffa-bach' a'r ynysoedd canolog lle saif y goleudy a bwthyn ceidwad y bwi yn 'Pen Gorffwyffa-fawr'; enwir y rhan ogleddol fel 'Gor-fedd Llywelyn.