ynys a gweriniaeth sofran yng Ngogledd Ewrop From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Wlad yr Iâ yn ynys yng Ngogledd y Cefnfor Iwerydd rhwng yr Ynys Las a Phrydain. Iaith Lychlynaidd yw Islandeg, ac mae mwyafrif yr ynys yn dilyn Eglwys Lwther. Yn y cyfrifiad diweddaraf roedd poblogaeth y wlad yn 364,260 (31 Rhagfyr 2019)[1], sydd ychydig yn llai na phoblogaeth Caerdydd.
Ísland | |
Math | ynys-genedl, gwladwriaeth sofran, gwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Iâ |
Prifddinas | Reykjavík |
Poblogaeth | 364,260 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Lofsöngur |
Pennaeth llywodraeth | Bjarni Benediktsson |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Islandeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Economeg Ewropeaidd, Gogledd Ewrop, Gwledydd Nordig |
Arwynebedd | 103,004 km² |
Yn ffinio gyda | Yr Ynys Las, Ynysoedd Ffaröe, Svalbard |
Cyfesurynnau | 65°N 19°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Gwlad yr Iâ |
Corff deddfwriaethol | Alþingi |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Llywydd Gwlad yr Iâ |
Pennaeth y wladwriaeth | Halla Tómasdóttir |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gwlad yr Iâ |
Pennaeth y Llywodraeth | Bjarni Benediktsson |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $25,553 million, $27,842 million |
Arian | Icelandic króna |
Canran y diwaith | 5 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.93 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.959 |
Ei llenor amlycaf, efallai, oedd Snorri Sturluson. O Wlad yr Iâ daw'r gantores pop Björk, Magnús Scheving o'r rhaglen deledu Lazytown, a'r nofelydd Halldór Laxness, enillwr Gwobr Nobel am lenyddiaeth ym 1955.
Mae gan yr Althing 63 o aelodau, a etholir pob pedair mlynedd. Y Prif Weinidog sy'n bennaeth ar y llywodraeth, tra bod yr arlywydd, a etholir am 4 mlynedd, yn penodi'r Prif Weinidog.
Ymsefydlodd Norwy-wyr yng Ngwlad yr Iâ gyda'u caethweision o'r Alban ac Iwerddon yn hwyr yn y 9g a'r 10fed. Nhw a sefydlodd y Senedd hynaf yn y byd, yr Althing, yn y flwyddyn 930.
Roedd Gwlad yr Iâ yn annibynnol am dros 300 mlynedd, ond cyn hir daeth o dan reolaeth Norwy a Denmarc. Sefydlwyd rheolaeth cartref ym 1874, ac annibyniaeth ym 1918. Arhosodd brenin Denmarc, Christian X, yn frenin ar Wlad yr Iâ tan 1944 pan sefydlwyd gweriniaeth.
Mae Gwlad yr Iâ ar fan poeth daearegol ar y Grib Canol-Iwerydd. Mae yna lawer o losgfynyddoedd, yn enwedig Hekla. Hyd heddiw mae llosgfynyddoedd yn cael eu creu— crëwyd ynys newydd Surtsey ar ôl ffrwydrad ar 14 Tachwedd 1963. Mae tua 10% o'r ynys o dan iâ, ac mae ei rhewlifoedd yn enwog ledled y byd. Mae gan y wlad lawer o giser (gair Islandeg), ac mae ynni daearthermol yn rhoi dŵr poeth a gwres cartref rhad yn y trefi.
Mae mwyafrif y trefi ar lan y môr. Y prif drefi yw Reykjavík, Keflavík—lleoliad y maes awyr cenedlaethol— ac Akureyri.
Mae geneteg pobl Gwlad yr Iâ yn debyg ac yn unigryw hyd heddiw, gan nad oes llawer o fewnfudo wedi digwydd dros y canrifoedd. O ganlyniad mae gwyddonwyr ar draws y byd yn astudio pobl yr ynys er mwyn darganfod mwy am etifeddu genynnau.
Ceir wyth rhanbarth yng Ngwlad yr Iâ, yn bennaf er mwyn hwyluso trefniadaeth ystadegol ac o ran côd-post y wlad. Mae system gyfreithiol y llysoedd hefyd wedi'i sefydlu ar y drefn hon o wyth rhanbarth. Yn rhyfedd iawn, ni ddiffinir yr wyth rhanbarth yn ôl cyfraith y wlad ac nid oes iddynt drefn weinyddol fel sydd gan siroedd Cymru.
# | Cyfieithiad o'r enw | Enw mewn Islandeg |
Poblogaeth ddiweddaraf |
Arwynebedd (km²) |
Pobl./ Arwynebedd |
ISO 3166-2 | Canolfan weinyddol |
Rhanbarthau Gwlad yr Iâ |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Rhanbarth y Brifddinas | Höfuðborgarsvæði | 233,034 | 1,062 | 201.14 | IS-1 | Reykjavík | |
2 | Penrhyn y De | Suðurnes | 27,829 | 829 | 27.15 | IS-2 | Keflavík | |
3 | Rhanbarth y Gorllewin | Vesturland | 17,541[2] | 9,554 | 1.65 | IS-3 | Borgarnes | |
4 | Ffiords y Gorllewin | Vestfirðir | 7,379[3] | 9,409 | 0.73 | IS-4 | Ísafjörður | |
5 | Rhanbarth y Gogledd-orllewin | Norðurland vestra | 7,322 | 12,737 | 0.56 | IS-5 | Sauðárkrókur | |
6 | Rhanbarth y Gogledd-ddwyrain | Norðurland eystra | 30,600 | 21,968 | 1.33 | IS-6 | Akureyri | |
7 | Rhanbarth y Dwyrain | Austurland | 11,227 | 22,721 | 0.55 | IS-7 | Egilsstaðir | |
8 | Rhanbarth y De | Suðurland | 28,399 | 24,526 | 1.01 | IS-8 | Selfoss | |
Gwlad yr Iâ | Ísland | 364,260[1] | 102,806 | 3.23 | IS |
Mae Gwlad yr Iâ yn cynnwys 23 sir neu sýslur:
* Árnessýsla
|
* Mýrasýsla
|
* Suður-Múlasýsla
|
Mae'r diwydiant pysgota yn bwysig iawn i'r economi. Mae 60% o enillion allforion y wlad a swyddi 8% o'r gweithlu yn dibynnu arno. Y prif allforion yw pysgod, alwminiwm a ferrosilicon.
Mae mwyafrif yr adeiladau wedi eu hadeiladu o goncrit gan fod mewnforio pren yn ddrud. Yn y 1990au dewisodd llywodraeth Gwlad yr Iâ amrywio'r economi drwy ganolbwyntio mwy ar ddiwydiannau gwneuthur a gwasanaeth, gyda datblygiadau ym miotechnoleg, gwasanaethau ariannol, a chynhyrchiad meddalwedd. Mae twristiaeth hefyd yn dod yn bwysicach.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.