Ynys Gwylan-fawr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynys fechan oddi ar arfordir Llŷn yng Ngwynedd yw Ynys Gwylan-fawr. Saif rhyw 2.5 km i'r de-ddwyrain o bentref Aberdaron a rhyw 1 km i'r de o Drwyn y Penrhyn. Saif ynys fechan arall, Ynys Gwylan-fach fymryn i'r de-orllewin o Ynys Gwylan-fawr.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Cau
Roedd y ddwy ynys yn perthyn i Ystad Plas Nanhoron, ac roedd yn arferiad gan y teulu gyfeirio'n ysmala at ddwy ynys Gwylan fel "the Empire overseas".
Nid oes neb yn byw ar yr ynys, sy'n warchodfa adar. Ceir nifer o rywogaethau o adar môr yn nythu yma, yn fwyaf arbennig y Pâl.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/90/Ynys_Gwylan-fawr_and_Ynys_Gwylan-bach_-_geograph.org.uk_-_59929.jpg/320px-Ynys_Gwylan-fawr_and_Ynys_Gwylan-bach_-_geograph.org.uk_-_59929.jpg)