![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/28/Paris_Shootings_-_The_day_after_%252822593744177%2529.jpg/640px-Paris_Shootings_-_The_day_after_%252822593744177%2529.jpg&w=640&q=50)
Ymosodiadau ym Mharis, Tachwedd 2015
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Ymosodiadau Paris, Tachwedd 2015 yn gyfuniad o saethu, dal gwystlon a hunanfomio a ddigwyddodd tua'r un amser ar y 13eg Tachwedd 2015 ym Mharis, Ffrainc. Digwyddodd rhan o'r ymosodiad ym maestref Saint-Denis, a leolir yng ngogledd y brifddinas ac fe'i trefnwyd gan gefnogwyr ISIS. Lladdwyd o leiaf 130 o sifiliaid, ac anafwyd 368 (80–99 yn ddifrifol).
![]() | |
Math | ymosodiad terfysgol cydgysylltiedig ![]() |
---|---|
Cylchfa amser | CET ![]() |
Nifer a laddwyd | 137 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | terrorism in France, terfysgaeth Islamaidd yn Ewrop ![]() |
Lleoliad | Bataclan, Stade de France, rue Bichat, rue de la Fontaine-au-Roi, La Belle Équipe, boulevard Voltaire, Le Petit Cambodge ![]() |
Sir | Paris, Saint-Denis ![]() |
Gwlad | Ffrainc ![]() |
Cyfesurynnau | 48.86303°N 2.37064°E ![]() |
![]() | |
Cyfnod | 13 Tachwedd 2015 ![]() |
13 Tachwedd:
- 21:20 – Hunanfomiad cyntaf ger Stade de France.
- 21:25 – Saethu yn lang
- 21:30 – Saethu ger Stade de France.
- 21:32 – Saethu yn Rue de la Fontaine-au-Roi.
- 21:36 – Saethu yn Rue de Charonne.
- 21:40 – Hunanfomio yn Boulevard Voltaire.
- 21:40 – Tri dyn yn mynd i fewn i Theatr Bataclan ac yn saethu ar unwaith.
- 21:53 – Trydydd hunanfomio ger y Stade de France.
- 22:00 – Gwystlon yn cael eu cymryd yn Theatr Bataclan.[1]
14 Tachwedd:
- 00:20 – Heddlu a Swyddogion Diogelwch Ffrainc yn mynd i fewn i Theatr Bataclan.
- 00:58 – Diwedd cyrch y Bataclan.[1]
Error in Template:Align: the alignment setting "dde" is invalid.
Dechreuodd yr ymososiad am 21:20 Amser Canolbarth Ewrop (CET) pan gafwyd tri hunanffrwydrad y tu allan i'r Stade de France yn Saint-Denis, ac o fewn dim, cafwyd hunanfomiad arall a saethwyd yn gelain nifer o bobl mewn pedwar lleoliad drwy Baris.[2] Lladdwyd 89 yn Theatr y Bataclan,[3] pan gymerodd y terfysgwyr wystlon cyn ymgymryd a sesiwn saethu teirawr gyda'r heddlu.[4][5][6] Lladdwyd 7 o'r terfysgwyr a pharhaodd y chwilio am wythnosau am gynorthwywr a therfysgwyr eraill.[7] Rhain oedd yr ymosodiadau mwyaf difrifol yn Ffrainc ers yr Ail Ryfel Byd,[8][9] gyda mwy o feirwon wedi'u lladd ar yr un diwrnod - o fewn unrhyw wlad drwy Ewrop - ers bomio tren Madrid yn 2004.[10]
Cyhoeddodd Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (ISIS neu ISIL) mai nhw oedd yn gyfrifol am gydgordio'r ymosodiadau,[11][12] a mynegodd Arlywydd Ffrainc, François Hollande fod y weithred hon yn "weithred o ryfel gan ISIL",[13] a gynlluniwyd ganddynt yn Syria, a drefnwyd yng Ngwlad Belg, ac a gafodd ei weithredu ar ein tir."[14][15] Credir i'r ymosodiad hwn ar Ffrainc ddigwydd i ddial am awyrennau Ffrainc a fu'n bomio ISIL yn Iraq a Syria ers Hydref 2015.[16]