Ymosodiad Arena Manceinion
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Achos o hunanfomio gan derfysgwr Islamaidd oedd ymosodiad Arena Manceinion a ddigwyddodd ar 22 Mai 2017 ym Manceinion, Lloegr.[1] Credir mai un dyn, Salman Abedi,[2] yn gweithio ar ei liwt ei hun, oedd yr hunanfomiwr, ond mae hefyd yn bosib fod eraill wedi'i gynorthwyo.
Enghraifft o'r canlynol | hunanfomio, llofruddiaeth torfol |
---|---|
Dyddiad | 22 Mai 2017 |
Lladdwyd | 23 |
Rhan o | terfysgaeth yn y Deyrnas Gyfunol, terfysgaeth Islamaidd yn Ewrop |
Lleoliad | Manchester Arena, Manceinion, Lloegr |
Rhanbarth | Dinas Manceinion |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Digwyddodd yr ymososiad yng nghyntedd yr Arena, tua 22:30, ar ddiwedd cyngerdd gan Ariana Grande; roedd y perfformiad yn rhan o'i thaith: Dangerous Woman Tour. Lladdwyd 22 o bobol, yn cynnwys y bomiwr, ac anafwyd 59.[3][4][5]
Dyma'r ail ddigwyddiad terfysgol yn Lloegr yn 2017, yn dilyn yr ymosodiad ar Westminster ar 22 Mawrth, a chafodd ei olynu gan ymosodiad Pont Llundain ac ymosodiad Parc Finsbury.
Galwodd y Prif Weinidog Theresa May y digwyddiad yn "ymosodiad terfysgol ofnadwy" ("appalling terrorist attack") a chadeiriodd gyfrafod o COBRA y bore canlynol.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.