![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/dc/2021_Taliban_Offensive.png/640px-2021_Taliban_Offensive.png&w=640&q=50)
Ymgyrch ymosodol y Taliban (2021)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymgyrch filwrol gan y Taliban yn erbyn llywodraeth Gweriniaeth Islamaidd Affganistan oedd ymgyrch ymosodol y Taliban (2021) a lansiwyd ar 1 Mai 2021 yn sgil diwedd Rhyfel Affganistan (2001–21) ac enciliad yr holl luoedd tramor a fu yn y wlad ers 2001. Nod y Taliban oedd i orchfygu tiriogaeth ar draws y wlad a cheisio adfer yr Emiriaeth Islamaidd a fuont yn llywodraethu arni o 1996 i 2001. Ym misoedd Mehefin a Gorffennaf 2021, llwyddodd y Taliban gipio mwy o diriogaeth nag ar unrhyw bryd ers eu cwymp yn 2001.[1] Erbyn canol mis Awst amgylchynwyd y brifddinas Kabul, y ddinas fawr olaf yn y wlad dan reolaeth y llywodraeth, gan luoedd y Taliban. Ffoes yr Arlywydd Ashraf Ghani o'r wlad, a chwympodd y llywodraeth genedlaethol. Cipiwyd Kabul ganddynt ar 15 Awst, gan sicrhau buddugoliaeth i'r Taliban.
![]() Map o ymgyrch ymosodol y Taliban. | |
Enghraifft o'r canlynol | gwrthdaro arfog, ymosodiad milwrol ![]() |
---|---|
Dyddiad | 2021 ![]() |
Rhan o | Rhyfel Affganistan ![]() |
Dechreuwyd | 1 Mai 2021 ![]() |
Lleoliad | Affganistan ![]() |
Yn cynnwys | August 2021 Kabul attack, Capture of Zaranj, Cwymp Kabul ![]() |
![]() |