Ymddiriodolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin a De-orllewin Gymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Ymddiriodolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin a De-orllewin Gymru yn un o 5 ymddiriedolaeth o'i bath yng Nghymru,[1] ac mae’n gyfrifol am warchodfeydd dros ardal sydd yn cynnwys Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro (gan gynnwys Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm), Ceredigion a Brycheiniog. Mae gan yr ymddiriodolaeth tua chant o warchodfeydd[2], yn cynnwys Gwarchodfa Natur Cors Teifi[3], Pwll y Wrach, Gwarchodfa Laverock a Gwarchodfa Parc Slip.
Mae’r ymddiriodolaeth hefyd yn cynnal prosiectiau, weithiau ar y cyd gyda cyrff eraill, megys Fy Nghaerdydd Gwyllt, Partneriaeth Canolbarth Cymru y Wiwer Goch a phrosiect y Cymunedau Gwyllt yng Nghwm Tawe.[4]