![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fb/Edward_abdication.png/640px-Edward_abdication.png&w=640&q=50)
Ymddiorseddu
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y weithred gan frenin neu frenhines sydd yn teyrnasu o ildio'i hawl i'r goron yw ymddiorseddu.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/fb/Edward_abdication.png/640px-Edward_abdication.png)
Yn hanesyddol, gwelid y fath weithred yn bryderus, gan iddi fwrw amheuaeth ar y syniad o frenhiniaeth. Mewn brenhiniaeth gyfansoddiadol, y teyrn yw'r pennaeth ar y wladwriaeth ac mae ganddo freintiau seremonĂ¯ol ond pwysig i'r broses wleidyddol. Gall ymddiorseddiad felly taflu cysgod ar gyfreithlondeb y llywodraeth a'r wladwriaeth oll. Darfu i benderfyniad Edward VIII, brenin y Deyrnas Unedig i ildio'r goron ym 1936 achosi argyfwng a elwir yn Helynt yr Ymddiorseddiad gan i'r llywodraeth, y teulu brenhinol, ac Eglwys Loegr i gyd ei wrthwynebu.
Ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, mae ymddiorseddu wedi dod yn fwy dderbyniol am reswm henaint, yn enwedig yn Ewrop. Penderfynodd Wilhelmina, brenhines yr Iseldiroedd i ymddiorseddu ym 1948, a gwnaed yr un peth gan ei holynwyr, Juliana ym 1980 a Beatrix yn 2013. Yn y flwyddyn 2013, ymddiorseddai hefyd y Pab Bened XVI (a oedd yn deyrn ar Ddinas y Fatican), Hamad, Emir Qatar, ac Albert II, brenin Gwlad Belg, ac yn 2014 Juan Carlos I, brenin Sbaen.[1] Ildiodd Akihito, Ymerawdwr Japan, Orsedd y Blodyn Mihangel i'w fab Naruhito yn 2019.[2]