Mudiad amhleidiol, Cymreig yw YesCymru a sefydlwyd ym Medi 2014, gyda'r nod o ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei llywodraethu. Mae YesCymru yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu pob person – o ba gefndir bynnag – sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt i fod yn ddinasyddion llawn o fewn Cymru.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Idioleg ...
YesCymru
Thumb
Enghraifft o'r canlynolsefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Idiolegcenedlaetholdeb Cymreig, annibyniaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2014 Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://yes.cymru/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau
Thumb
Logo YesCymru
Thumb
Baner YesCymru yn cael ei chwifio gan band 'Tŷ Gwydr' mewn gig yn Eisteddfod Caerdydd, 2018

Sefydlu

Yn Haf 2014, wedi'u hysbrydoli gan refferendwm annibyniaeth yr Alban a oedd i'w chynnal ar 18 Medi, aeth nifer o bobl ati i drefnu rali o flaen y Senedd yng nghaerdydd. Y trefnwyr oedd: Branwen Alaw, Hedd Gwynfor, Armon Gwilym, Iestyn ap Rhobert, Siôn Jobbins a Leon Russell. Pwrpas y rali oedd cefnogi annibyniaeth i'r Alban.

Ar 13 Medi 2014 cynhaliwyd y rali o flaen adeilad y Senedd dan y teitl 'Cymru'n cefnogi Ie - Ewch Amdani Alba', gydag 800 o bobl yn bresennol.[2]

27 September 2014 – Following the rally, a meeting was held at Chapter Arts Centre in Cardiff to discuss forming a more formal movement for Welsh independence. Those present included Armon Gwilym, Catrin Dafydd, Iestyn ap Rhobert, Branwen Alaw, Colin Nosworthy, Osian Rhys, and Emyr Gruffydd. Apologies were received from Hedd Gwynfor, Menna Machreth, Sara Hawys, Siôn Jobbins, Garmon Ceiro, Rhys Aneurin, Harriet Prothero-Davies, Sioned Haf and Rhys ap Rhobert.

Ar 27 Medi 2014 cynhaliwyd cyfarfod cyntaf i drafod ffurfio mudiad dros Annibyniaeth i Gymru yn Chapter, Caerdydd. Yn bresennol roedd: Armon Gwilym, Catrin Dafydd, Iestyn ap Rhobert, Branwen Alaw Evans, Colin Nosworthy, Osian Rhys ac Emyr Gruffydd a chafwyd ymddiheuriad gan Hedd Gwynfor, Menna Machreth, Sara Hawys, Siôn Jobbins, Garmon Ceiro, Rhys Aneurin, Harriet Prothero-Davies, Sioned Haf a Rhys ap Rhobert.

Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad o bwys yn Ebrill 2015, fis cyn yr etholiad cyffredinol, rali a oedd yn galw am Ymreolaeth i Gymru.[3]

Ar 1 Tachwedd, yng ngwesty'r Queens, Caerfyrddin, bathwyr yr enw 'YesCymru a phenodwyd swyddogion. Derbyniwyd papur gan Colin Nosworthy ac Armon Gwilym. Yn bresennol: Siôn Jobbins, Gweirydd ap Gwyndaf, Catrin Dafydd, Branwen Alaw, Fflur Arwel, Dilys Davies, Iestyn ap Rhobert, Armon Gwilym, a Hedd Gwynfor. Penodwyd Armon Gwilym yn Gadeirydd, Fflur Arwel yn Ysgrifennydd, Gweirydd ap Gwyndaf yn Drysorydd a Hedd Gwynfor a Branwen Alaw yn swyddogion Cyfryngau Cymdeithasol.

Aelodaeth

Ar 2 Tachwedd 2020, roedd gan y mudiad 12,000 o aelodau.[4][5] Golygai hyn y gwelwyd cynnydd o 3,000 o aelodau mewn llai na tridiau (30 Hydref - 2 Tachwedd; a chynnydd o 9,000 o aelodau rhwng Chwefror a Thachwedd. Tyfodd aelodaeth ac amlygrwydd YesCymru yn esbonyddol yn ystod y pandemig COVID-19. Yng ngwanwyn 2020 dyblodd nifer yr aelodau o 2,500 i 5,000 dros ddau fis yn unig. Cafodd y sefydliad gynnydd pellach o oddeutu 3,000 o aelodau dros dri diwrnod ddiwedd mis Hydref 2020; roedd y codiad hwn yn cyd-fynd â llywodraeth San Steffan yn gwrthod rhoi hwb i fusnesau Cymru ar gyfer y cyfnod cau tân '17 diwrnod' yng Nghymru. Yn Ionawr 2021, honnodd YesCymru fod ganddo fwy na 17,000 o aelodau cofrestredig. Cred Siôn Jobbins mai un o'r rhesymau dros dwf mor gyflym yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â'r pandemig. Erbyn Medi 2024 roedd yr aelodaeth ychydig dros 6,000.

Gorymdeithiau Cenedlaethol

Ym Mai 2019, gyda Pawb Dan Un Faner (AUOB Cymru), trefnwyd yr orymdaith genedlaethol gyntaf dros Annibyniaeth yng Nghaerdydd. Yn ogystal â'r ddau fudiad yma, cefnogwyd yr orymdaith gan Awoken Cymru, Cymdeithas yr Iaith, Cefnogwyr Peldroed dros Annibyniaeth, Llafur dros Annibyniaeth, Gellir Gwell!, ac Undod. Anerchwyd y dorf gan Adam Price (Arweinydd Plaid Cymru), Carys Eleri (Actor), Ben Gwalchmai (Llafur Dros Annibyniaeth), Siôn Jobbins (Cadeirydd YesCymru), Sandra Clubb (mudiad chwith dros annibyniaeth, Undod) ac Ali Goolyad (Bardd). Yn ôl y wasg, roedd dros 2,000 yn bresennol.

Rhestr gorymdeithiau a niferoedd

1. 11 Mai 2019: Caerdydd 3,000[6] (Comin)
2. 27 Gorffennaf 2019: Caernarfon 8,000[7] (Comin)
3. 7 Medi 2019: Merthyr Tudful 5,200[8] (Comin)
4. 2 July 2022: Wrecsam 8,000[9](Comin)
5. 1 Hydref 2022: Caerdydd 10,000[10] (Comin)
6. 10 Mai 2023: Abertawe 7,000[11] (Comin)
7. 23 Medi 2023 Bangor: 10,000[12] (Comin)
8. 22 Mehefin: Caerfyrddin 5,500[13]

Llyfryn Annibyniaeth yn dy Boced

Thumb
'Annibyniaeth yn dy Boced'

Yn 2017 cyhoeddodd y mudiad lyfryn ddwyieithog maint A6 o'r enw 'Annibyniaeth yn dy Boced' ('Independence in your pocket'). Argraffwyd y llyfr gan Gwasg y Lolfa. Rhoddwyd fersiwn pdf am ddim o'r llyfr ar wefan YesCymru yn ogystal â'r copi print.

Thumb
Gludyn YesCymru

Radio YesCymru

Darlledwyd Radio YesCymru ar y we yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Darlledwyd ar wefan cymru.fm a hefyd Radio Beca. Roedd y darllediadau byw rhwng 5.00 - 7.00pm nosweithiau Mercher, Iau a Gwener 8-19 Awst. Recordiwyd y rhaglenni o swyddfa Indycube ar Sgwâr Mount Stewart. Cyflwynwyd y rhaglenni gan Siôn Jobbins a cafwyd cyfweliadau amrywiol gyda chenedlaetholwyr gan gynnwys Rhun ap Iorwerth, Adam Price, Eurfyl ap Gwilym, y llenor Catrin Dafydd (enillydd Cadair yn Eisteddfod Caerdydd), Huw Marshall, Llwyd Owen a Gareth Bonello.


Dolenni allanol

Ffeithiau sydyn
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Cau

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.