Y pandemig COVID-19 ym Mhalesteina
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r pandemig COVID-19 ym Mhalestina yn rhan o bandemig byd-eang clefyd coronafirws 2019 (COVID-19) a achosir gan syndrom anadlol acíwt difrifol coronafirws 2 (SARS-CoV-2). Cofnodwyd yr achosion gyntaf yn Ninas Gaza, ar 21 Mawrth 2020. Ar 24 Awst 2020, cofnodwyd achosion a gadarnhawyd y tu allan i ganolfannau cwarantîn. Mae'r nifer a fu farw dros 3,604 (Gorffennaf 2021)[1].
Enghraifft o'r canlynol | pla o afiechyd |
---|---|
Lladdwyd | 3,604 |
Gwlad | Palesteina |
Rhan o | pandemig COVID-19 yn Asia, pandemig COVID-19 yn ôl gwlad |
Dechreuwyd | 5 Mawrth 2020 |
Lleoliad | Gwladwriaeth Palesteina |
Yn cynnwys | 2020 COVID-19 pandemic in Bethlehem |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dywedodd uwch swyddog y Cenhedloedd Unedig yn y wlad wrth y Cyngor Diogelwch mewn cyfarfod cynhadledd fideo 23 Ebrill 2020 fod Israeliaid a Palestiniaid yn cydweithredu mewn ffyrdd newydd sbon i ddelio â’r pandemig ond bod yn rhaid i Israel wneud mwy i ddiogelu iechyd pawb sydd o dan ei rheolaeth.[2]
Yn ôl dadansoddiad gan Haaretz (newyddion asgell chwith Israel) ar 22 Gorffennaf 2020, roedd pryder y gallai'r sefyllfa fynd y tu hwnt i bob rheolaeth. Yn dilyn torri cydgysylltiad diogelwch a chysylltiadau sifil gydag Israel, rhoddodd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina y gorau i gydlynu ar drin cleifion ag Israel. Rhoesant y gorau hefyd i dderbyn post a phecynnau trwy borthladdoedd Israel a thorrwyd pob cydgysylltiad â byddin Israel (yr IDF) yn ogystal â'r Shin Bet (Asiantaeth Cudd Israel). Daeth croesi'r ffin ag Israel i ben hefyd. Ar ben hyn, cafodd yr anghydfod ag Israel ynghylch refeniw treth effaith economaidd ddifrifol.[3][4]
Ar 31 Awst 2020, yn ôl Cydlynydd Dyngarol y Cenhedloedd Unedig, Jamie McGoldrick, "Mae'r dirywiad a welwyd yn Llain Gaza yn ystod yr wythnosau diwethaf yn destun pryder mawr." Dywedodd "Mae toriadau pŵer (trydan, dwr ayb) yn effeithio'n ddifrifol ar ysbytai yn ogystal ag unedau gofal dwys." a galwodd ar Israel "i ganiatáu ailddechrau mewnforio tanwydd i'r Llain Gaza ar unwaith, yn unol â'i rwymedigaethau fel gwlad sydd wedi goresgyn gwlad arall." [5] Dechreuodd y broses o frechu ar 21 Mawrth 2021.