![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6f/ArtemisiaVulgaris.jpg/640px-ArtemisiaVulgaris.jpg&w=640&q=50)
Y feidiog lwyd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy'r Feidiog Lwyd (Lladin: Artemisia vulgaris, Saesneg: Mugwort). Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ceir nifer o enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn, gan gynnwys y Fydiog Lwyd, Canwraidd Lwyd, yr Wrysgen Lwyd, Llwydlys, Llys leuan, Llys Ifan, Llysiau leuan, Llysiau Ifan, Llysiau Llwyd, a Llysiau Llwydion.
Ffeithiau sydyn Artemisia vulgaris, Dosbarthiad gwyddonol ...
Artemisia vulgaris | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Artemisia |
Enw deuenwol | |
Artemisia vulgaris Carl Linnaeus | |
Cau
Gall dyfu hyd at 2.5m o daldra neu'n fwy a gall ei dail dyfu rhwng 5–20cm o hyd ac yn wyrdd tywyll.
Daw'r gair Asteraceae, sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair Aster, y genws mwyaf lluosog o'r teulu, ac mae'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren.'