Y fantell goch
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Fantell goch (lluosog: mentyll cochion) yn löyn byw cymharol fawr sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae. Yr enw Saesneg arno yw Red Admiral, a'i enw gwyddonol yw Vanessa atalanta. Mae i'w weld yn Ewrop, Asia a Gogledd America. Daw i Gymru yn ystod yr haf o Fôr y Canoldir, fel arfer tua dechrau Gorffennaf.[2]
Vanessa atalanta | |
---|---|
O'r top | |
O'r ochor | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Vanessa |
Rhywogaeth: | V. atalanta |
Enw deuenwol | |
Vanessa atalanta (Linnaeus, 10fed rhifyn o: Systema Naturae, 1758) | |
Isrywogaethau | |
| |
Cyfystyron | |
|
Lled yr adenydd ar eu heithaf ydy rhwng 45 – 50 mm (dwy fodfedd).[3] Yn ne Ewrop, mae hefyd i'w weld yn hedfan yn ystod y gaeaf. Fe'i disgrifwyd am y tro cyntaf gan y naturiaethwr Carl Linnaeus yn 1758, yn ei 10fed cyfrol o Systema Naturae.[4]
Gwelir yr oedolyn yn aml yn bwydo ar ddail yr eiddew (neu iorwg) neu'n yfed o flodau'r Buddleia, neu ffrwyth goraeddfed, a hynny fel arfer mewn coedwigoedd llaith. Caiff yr wyau gwyrdd eu dodwy ar ddail y danadl poethion (Urtica dioica), un ddeilen i bob ŵy. Bydd y lindys yn deor a bydd yn creu amddiffynfa iddo ei hunan drwy dynnu ymylon y ddeilen at ei gilydd.
Mae'r oedolion yn gallu gaeafgysgu.