From Wikipedia, the free encyclopedia
Wisgi o Unol Daleithiau America a ddistyllir o fwydion corn yw wisgi bwrbon.[1] Mae'n rhaid i'r mwydion fod o leiaf 51 y cant yn gorn, a'r gweddill yn frag a rhyg, ac fe'i roddir mewn casgenni derw golosg i aeddfedu.[2] Nodweddir bwrbon gan ei flas melys, o ganlyniad i'w gynnwys uchel o gorn, yn aml gydag arwyddion o garamel, fanila, a derw. Ychwanegir cyflasau sbeis, ffrwyth, a mwg gan y broses o'i heneiddio mewn casgenni golosg. O ran ei olwg, gwerthfawrogir bwrbon am ei liw melyngoch cryf neu frown tywyll, nodwedd arall o ganlyniad i'r casgenni golosg.
Detholiad o wisgi bwrbon ar werth mewn siop wirodydd yn Decatur, Georgia, UDA. | |
Math | American whiskey |
---|---|
Deunydd | maize |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dechrau/Sefydlu | 18 g |
Enw brodorol | bourbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gellor olrhain hanes bwrbon yn ôl i wladychwyr Albanaidd a Sgot-Wyddelig yn nhalaith Kentucky yn niwedd y 19g, a ddechreuodd defnyddio corn, un o gnydau brodorol y Byd Newydd, i gynhyrchu wisgi. Mae'n debyg i'r enw darddu o Bourbon County yng "Ngwlad y Glaswellt Glas", un o ranbarthau daearyddol a diwylliannol y dalaith. Ers 1897, mae deddfau taleithiol a ffederal yn rheoli ansawdd a chynhyrchiad unrhyw wisgi a werthir dan yr enw bwrbon. Mae brandiau enwog yn cynnwys Jim Beam, Maker's Mark, Buffalo Trace, Wild Turkey, a Woodford Reserve.
Caiff y grawn corn eu malu a'u cymysgu â dŵr i greu breci, neu frag gwlyb. Ychwanegir burum i eplesu'r siwgwrau, gan greu frag alcoholaidd. Yna distyllir y brag i gynyddu'r cynnwys alcohol ac i grynodi'r blasau. Rhoddir y ddiod ddistyll hon mewn casgenni derw golosg i aeddfedu, gan adael i'r wisgi amsugno blas y dderw a datblygu ei liw nodweddiadol. Wedi'r broses heneiddio, hidlir a theneuir y bwrbon i sicrhau'r cynnwys alcohol cywir cyn ei botelu.
Yn debyg i fathau eraill o wisgi, yfir bwrbon mewn sawl ffordd: ar ei ben ei hun, heb gymysgydd nac iâ, i werthfawrogi ei flas yn llwyr; gydag iâ, i'w oeri a'i wanhau; neu mewn coctel, er enghraifft jwlep mint (bwrbon, siwgwr, dŵr, iâ, a mintys).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.