tirfeddianwr a gwleidydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Bonheddwr, hynafiaethydd a gwleidydd o Gymru oedd William Watkin Edward Wynne (23 Rhagfyr 1801 - 9 Mehefin 1880). Roedd yn Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd.
William Watkin Edward Wynne | |
---|---|
Ysgythriad o William Watkin Edward Wynne gan Charles William Walton; 1870au | |
Ganwyd | 23 Rhagfyr 1801 Peniarth |
Bu farw | 9 Mehefin 1880 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hynafiaethydd, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | William Wynne |
Mam | Elizabeth Puleston |
Priod | Mary Wynne |
Plant | William Robert Maurice Wynne, Owen Slaney Wynne |
William Watkin Edward Wynne oedd yr hynaf o ddeg plentyn William Wynne Ystâd Peniarth ger Tywyn, Meirionnydd ac Elizabeth (née Puelston) merch y Parch Richard Puleston o Neuadd Pickhill Sir Ddinbych. Ganwyd W. W. E. Wynne yng nghartref teuluol ei fam ar 23 Rhagfyr 1801.[1]
Cafodd ei addysg gynharaf, yn ôl trefn bonheddwyr y cyfnod, gan diwtoriaid yn y cartref cyn cael ei gofrestru fel disgybl yn Ysgol Westminster ym 1814. O Westminster aeth yn fyfyriwr i Goleg yr Iesu. Rhydychen gan fatriciwleiddio ar 24 Mawrth 1824 [2]
Ymbriododd Wynne ar Mai 8fed 1839 â Mary, ail ferch a chyd etifeddes Robert Aglion o Walford Manor a Hatton Grange Swydd yr Amwythig. Wedi'r briodas bu'r deuddyn yn ymgartrefu ar ystâd Aglion yn Ruyton Hall, Swydd yr Amwythig. Yno ganwyd iddynt dau fab William Robert Maurice Wynne ac Owen Slaney Wynne. Bu'r teulu'n fyw wedi hynny ym Mynydd Seion, Croesoswallt ac Aberamffra, yr Abermaw cyn etifeddu'r ystâd edling ym Mheniarth.
Roedd bywyd cyhoeddus Wynne yn bennaf nodedig oherwydd ei rôl fel sgweier lleol, fel pob un o'i radd mae'n cael ei ddisgrifio fel sgweier rhadlon; ond prin y byddid unrhyw un yn dweud yn wahanol!
Roedd Wynne, yn groes i dueddiadau ei oes (a oedd am gadw dibyniaeth ar fwyd yn nwylo'r landlordiaid) yn gredwr brwdfrydig yn y syniad o hybu tyfu bwyd yn yr ardd a'r rhandir ac fe fu yn un o sylfaenwyr y cysyniad o'r Sioe Pentref lle'r oedd y werin yn cael arddangos a rhannu eu gallu i greu eu bwyd eu hunain o dir a chrefft a lle roedd y fath grefft yn cael ei fawrygu.
Fe gynrychiolodd Wynne etholaeth Meirion yn San Steffan fel Aelod Seneddol am 13 mlynedd o 1852 i 1865 cyn ildio ei sedd i'w mab William Robert Maurice Wynne. Roedd yn Uchel Sirif Meirion, yn Dirpwy Raglaw, Ystys Heddwch, Ynad Sirol ac yn Gwnstabl Castell Harlech.[3]
Mae Wynne yn cael ei gofio yn bennaf fel hynafiaethydd. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes eglwysig, archaeoleg, achyddiaeth, hanes lleol, ystyr enwau llefydd a chasglu a thrawsysgrifio llawysgrifau.
Trwy briodas ei dad ag Elizabeth Pulston daeth Wynne yn berchennog ar gasgliad llyfrgell Penbedw. Fe drawsysgrifiodd nifer o lawysgrifau o gasgliad Brogyntyn ac ym 1859 etifeddodd casgliad Hengwrt drwy ewyllys Syr Robert Williames Vaughan. Ar ôl marwolaeth meibion Wynne drosglwyddwyd y llawysgrifau o Beniarth i’r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth, lle mae'n parhau fel un o gasgliadau pwysicaf y llyfrgell, sef casgliad Llawysgrifau Peniarth.[4]
Ym 1852 cafodd ei ethol yn gymrawd o'r Society of Antiquaries, yr oedd yn un o ymddiriedolwyr a llywydd Cymdeithas Archeolegol Cambrian ac yn is lywydd y Powysland Club. Fe gyhoeddodd nifer fawr o erthyglau yng nghylchgronau a thrafodion hanesyddol y cyfnod megis Montgomeryshire Collections, Y Cymmrodor, Byegones, gan gynnwys bron i ddeugain erthygl yn Archaeologia Cambrensis. Yn ddiweddarach cyhoeddwyd dau o'i erthyglau 'A Historical and Topographical Guide to Harlech Castle' ac 'A History of the Parish of Llanegryn' fel llyfrynnau unigol.
Bu farw W W E Wynne ar 9fed Mehefin 1880 a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Llanegryn.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.