![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cf/Uyghur_man_in_Kashgar.jpg/640px-Uyghur_man_in_Kashgar.jpg&w=640&q=50)
Wigwriaid
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pobl Dyrcig sy'n byw yn Xinjiang, rhanbarth hunanlywodraethol o fewn Gweriniaeth Pobl Tsieina, yw'r Wigwriaid.[1] Mae tua 31.4 miliwn ohonynt i gyd, 28.82 miliwn o'r rhain yn Xinjiang, lle maent yn ffurfio 45% o'r boblogaeth. Siaradant Wigwreg, sy'n un o'r ieithoedd Twrcaidd, ac maent yn ddilynwyr Islam o ran crefydd.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/03/Khotan-melikawat-chicas-d03.jpg/640px-Khotan-melikawat-chicas-d03.jpg)
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig ![]() |
---|---|
Math | Pobl Twrcaidd ![]() |
Mamiaith | Uyghur, tsieineeg ![]() |
Poblogaeth | 12,314,800 ![]() |
Crefydd | Sunni ![]() |
Rhan o | Pobl Twrcaidd ![]() |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Casachstan, Cirgistan, Wsbecistan, Rwsia, Tyrcmenistan ![]() |
![]() |
Cau
Ceir mudiad cenedlaethol ymhlith yr Wigwriaid sy'n anelu at annibyniaeth i Xinjiang dan yr enw Dwyrain Tyrcestan. Yn y blynyddoedd diwethaf, mewnfudodd nifer fawr o Tsieineaid Han i Xinjiang, a bu cryn dipyn o dyndra ethnig rhyngddynt hwy a'r Wigwriaid, gydag ymladd ar y strydoedd ym mis Gorffennaf 2009. Maent yn dioddef hil-laddiad o dan reolaeth China.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1f/Uyghur_protest_in_Munich_2008.jpg/640px-Uyghur_protest_in_Munich_2008.jpg)