Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Terfysgaeth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Terfysgaeth yw'r defnydd o braw a thrais i fygwth neu gorfodi unigolyn, mudiad neu llywodraeth i newid neu gwneud rhywbeth, er enghraifft, at bwrpas gwleidyddol. Mae’r trais yn medru bod ar ffurf llofruddiaeth, hunanladdiad, nwyon gwenwynig, herwgipio neu bygythiad i ddinistrio, er enghraifft, bomio.
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Radicaliaeth a Phrotest | |
HWB | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Mae’r defnydd o fraw gan derfysgwyr hefyd yn fath o ryfela seicolegol yn erbyn pwy bynnag neu beth bynnag yw eu targed. Yn ôl barn rhai haneswyr, sifiliaid yw prif darged terfysgwyr ac oherwydd hynny maent yn dueddol i dargedu ardaloedd trefol.
Gall y terfysgaeth yma gael ei gario allan gan unigolyn yn gweithredu ar ben ei hun, neu gall fod yn derfysgaeth sydd yn cael ei noddi a’i gefnogi gan llywodraeth. Mae enghreifftiau mewn hanes yn dangos hefyd bod mudiadau, grwpiau protest neu grŵp penodol o bobl yn troi at derfysgaeth oherwydd bod cyfyngiadau ar eu hawliau a nad oes ganddynt ffordd arall i fynegi eu hanfodlonrwydd.
Mae terfysgaeth yn dacteg sydd yn raddol wedi cynyddu yn ystod yr 20fed ganrif ac mae’r dulliau terfysgol wedi mynd yn fwy soffistigedig ac yn anoddach i’r awdurdodau eu monitro a’u darganfod. Llofrudd yn y dorf a saethodd gyda'i wn at Archddug Franz Ferdinand yn 1914 oedd Gavrilo Princip tra mai nwyon cemegol fel sarin gan derfysgwyr o bell a ddefnyddiwyd mewn ymosodiadau terfysgol diweddar ar ddiwedd yr 20fed ganrif.
Mae terfysgaeth diweddar yr 20fed ganrif yn targedu mannau poblog, gwasanaethau neu cyfleusterau sy’n cael eu defnyddio gan llawer o bobl, er enghraifft, trafnidiaeth a chludiant, mannau gwaith neu ddigwyddiadau penodol fel cyngherddau.
Erbyn degawdau olaf yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif bu esgyniad sylweddol yn nifer yr enghreifftiau o derfysgaeth, er enghraifft, Trychineb Lockerbie, ymosodiad y Tyrau, Efrog Newydd yn 2001, ymosodiadau ar swyddfa Charlie Hebdo ym Mharis ym 2015 a’r Ymosodiad Arena Manceinion ym mis Mai 2017. Yn yr enghreifftiau yma roedd effeithiau’r terfysgaeth wedi bod ar raddfa lle anafwyd a lladdwyd hyd at filoedd o bobl.