Wicipedia:Ar y dydd hwn/31 Mawrth
Wicipedia nodyn / From Wikipedia, the free encyclopedia
- 1276 (748 blynedd yn ôl) – Ildiodd Castell Dolforwyn, castell Llywelyn ap Gruffudd, i'r Saeson
- 1406 (618 blynedd yn ôl) – arwyddwyd Llythyr Owain Glyndŵr at Siarl VI o Ffrainc yn Eglwys Sant Pedr ad Vincula, Pennal
- 1717 (307 blynedd yn ôl) – Y Ddadl Fangoraidd: mewn pregeth ym mhresenoldeb Siôr I, deadleuodd Esgob Bangor, Benjamin Hoadly, nad oedd cyfiawnhad beiblaidd i unrhyw lywodraeth eglwysig
- 1920 (104 blynedd yn ôl) – Datgysylltwyd yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru
- 1945 (79 blynedd yn ôl) – Ganwyd yr actores Myfanwy Talog, yng Nghaerwys