![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7d/Maidan_Nezalezhnosti_view.jpg/640px-Maidan_Nezalezhnosti_view.jpg&w=640&q=50)
Wcráin
gwlad yn nwyrain Ewrop / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlad a gweriniaeth yn nwyrain Ewrop yw Wcráin. Ystyr y gair "Wcráin" yw'r "wlad gyda ffiniau" (yn debyg i'r "Mers" rhwng Cymru a Lloegr, a gwledydd cyfagos iddi yw Ffederasiwn Rwsia, Belarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Rwmania a Moldofa. Ei ffin i'r de yw'r Môr Du ac i'r de ddwyrain ohoni mae'r Môr Azov. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth y wlad yn 41,167,335 (1 Ionawr 2022).
![]() | |
![]() | |
''Україна Ukraina'' | |
![]() | |
Math | Gwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | name of Ukraine ![]() |
Prifddinas | Kyiv ![]() |
Poblogaeth | 41,167,335 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Anthem genedlaethol Wcráin ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Denys Shmyhal ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00, EET, Europe/Kyiv ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wcreineg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Ewrop, Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd ![]() |
Gwlad | Wcráin ![]() |
Arwynebedd | 603,550 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Belarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Rwmania, Moldofa, Rwsia, yr Undeb Ewropeaidd ![]() |
Cyfesurynnau | 49°N 32°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cabined y Gweinidogion ![]() |
Corff deddfwriaethol | Verkhovna Rada ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Wcráin ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Volodymyr Zelenskyy ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Wcráin ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Denys Shmyhal ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $199,766 million, $160,503 million ![]() |
Arian | Hryvnia ![]() |
Canran y diwaith | 8 ±1 canran ![]() |
Cyfartaledd plant | 1.498 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.773 ![]() |
Ym Mawrth 2014 cyfeddiannwyd y Crimea gan Rwsia; ar 24 Chwefror 2022 dechreuodd Rhyfel Rwsia ac Wcráin pan ymosododd Rwsia ar Wcráin. Adenillodd Wcráin lawer o'r tir a gollwyd erbyn diwedd 2022; mae'r rhyfel hwn yn parhau.
Mae gan Wcráin arwynebedd o 603,628 km2 (233,062 mi sgw), sy'n golygu mai hi yw'r wlad fwyaf yn Ewrop (o'r gwledydd hynny sy'n gyfan gwbl o fewn Ewrop).[1][2][3]
Gwladychwyd neu meddiannwyd ei thiroedd gan fodau dynol tua 44,000 o flynyddoedd yn ôl,[4] ac mae'n ddigon posib mai yma y dofwyd y ceffyl am y tro cyntaf,[5][6][7][8] a'r fan lle y cychwynnwyd siarad Ieithoedd Indo-Ewropeaidd.
Mae ehangder ei thiroedd a'i ffermydd ffrwythlon dros y blynyddoedd yn golygu ei bod ymhlith y gwledydd gorau am gynhyrchu grawn ac yn 2011, Wcráin oedd y trydydd gorau drwy'r byd.[9] Yn ôl Cyfundrefn Masnach y Byd, mae Wcráin, felly'n un o'r 10 gwlad mwyaf dymunol i'w meddiannu.[10] Ar ben hyn, mae ganddi un o'r diwydiannau creu awyrennau gorau.
Ceir poblogaeth o oddeutu 44.6 miliwn o bobl gyda 77.8% ohonyn nhw o darddiad Wcreinaidd, 17% yn Rwsiaid, Belarwsiaid, Tatariaid neu'n Rwmaniaid. Wcreineg yw'r iaith swyddogol a'i gwyddor yw'r wyddor Gyrilig Wcraneg. Siaredir y Rwsieg hefyd gan lawer. Y grefydd fwyaf yn y wlad yw'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol sydd wedi dylanwadu'n helaeth ar bensaernïaeth y wlad yn ogystal a'i llenyddiaeth a'i cherddoriaeth.
Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd.