From Wikipedia, the free encyclopedia
Perchennog Chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog oedd William Edward Oakeley (1 Awst 1828 – 1 Chwefror 1912).[1]
Roedd yn fab i William Oakeley (1798–1834) a Mary Maria Miles, ac yn ŵyr i Syr Charles Oakeley, Barwnig 1af Amwythig. Etifeddodd ystad Tanybwlch yn 1868 gan gweddw cefnder ei dad gan y bu farw'n ddi blant.[2]
Addysgwyd ef yn Eton a Rhydychen, cyn priodi Mary Russell ym 1860. Cliffe House, Twycross Swydd Gaerlŷr, ger Atherstone Swydd Warwick oedd ei prif gartref. Yn ystod cyfrifiad 1881, roedd yn byw yno gyda'i wraig a'i ferch ac athrawes a 12 gwas/morwyn, disgrifwyd ei alwedigaeth ar y pryd fel perchennog tiriog.[3]
Bu farw ar 1 Chwefror 1912, a claddwyd ar 6 Chwefror. Datganwyd ei farwolaeth yn The Times, a chwe diwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddwyd disgrifiad o'r orymdaith. Cludwyd ei arch o'i gartref yn Cliffe House i Flaenau Ffestiniog ar y rheilffordd ac yna ar lori i fynwent eglwys Sant Twrog ym Maentwrog. Dilynwyd y lori gan ganoedd o weithwyr o Chwarel yr Oakeley.[4][5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.