From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Vladimir Yevgraphovich Tatlin (Rwsieg: Влади́мир Евгра́фович Та́тлин; (28 Rhagfyr 1885 – 31 Mai 1953)[1] yn arlunydd a phensaer o Ymerodraeth Rwsia/Undeb Sofietaidd. Gyda Kazimir Malevich roedd yn un o’r ddau berson pwysicaf yn y mudiad celfyddydol avant garde yn Rwsia yn y 1920au. Yn ddiweddarach fe ddaeth yn amlwg yn y mudiad celf Lluniadaeth, (Constructivism).
Vladimir Tatlin | |
---|---|
Ganwyd | 16 Rhagfyr 1885 (yn y Calendr Iwliaidd) Kharkiv, Moscfa |
Bu farw | 31 Mai 1953 o clefyd heintus Moscfa |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, pensaer, cerflunydd, academydd, darlunydd, cynllunydd llwyfan, cynllunydd, gwneuthurwr printiau, artist cydosodiad, gludweithiwr, drafftsmon |
Adnabyddus am | Tŵr Tatlin |
Arddull | architectural view, figure, noethlun, portread, bywyd llonydd |
Mudiad | Adeileddiaeth |
Plant | Anatoly Romov |
Cofir Taltin yn bennaf am Dŵr Tatlin, neu'r prosiect ar gyfer y Gofeb i'r Drydedd Rhyngwladol (1919–20) [2], oedd yn gynllun i godi tŵr anferthol na chafodd erioed mo'i adeiladu [3]. Bwriad Tatlin oedd codi’r tŵr ym Mhetrograd (St. Petersburg yn awr) yn dilyn y Chwyldro Bolsieficaidd ym 1917, fel pencadlys i'r mudiad comiwnyddol y Comintern (y Drydedd Rhyngwladol).
Ganwyd Tatlin yn Kharkov (dwyrain Wcráin yn yr hen Ymerodraeth Rwseg,[4] yn fab i beiriannydd rheilffordd a bardd. Dechreuodd ei yrfa gelfyddydol fel peintiwr iconau ym Moscow ac fe fynychodd Ysgol Peintio, Cerfluniaeth a Phensaernïaeth Moscow. Roedd hefyd yn gerddor proffesiynol ac fe berfformiodd dramor.
Fe ddaeth yn enwog am Tŵr Tatlin ei gynlluniau i adeiladu tŵr anferthol i goffau’r Chwyldro Bolsieficaid ac fel pencadlys i'r mudiad comiwnyddol y Comintern (y Drydedd Rhyngwladol). Ni chafodd y tŵr ei godi a hyd yn oed petai'r cyflenwad enfawr o ddur wedi bod ar gael yn Rwsia ar y pryd; (roedd y wlad yn dioddef argyfwng economaidd, prinder adnoddau sylfaenol a helyntion gwleidyddol) ac mae amheuaeth ddifrifol a oedd yr adeilad yn ymarferol o gwbl [5].
Roedd y tŵr i fod yn steil lluniadaeth (constructivist) i'w adeiladu o ddefnyddiau diwydiannol: haearn, gwydr a dur. Yn ei ddefnyddiau, siâp a'i ddefnydd, roedd i fod yn symbol blaenllaw o fodernedd ac yn llawer uwch na Thŵr Eiffel ym Mharis. Prif ffurf y tŵr oedd troell dwbwl oedd i godi hyd at 400 medr o uchder [6] oedd i gludo'r ymwelwyr gyda chymorth amryw o ddyfeisiadau mecanyddol. Y prif fframwaith oedd gynnwys pedwar strwythur geometreg - ciwb, pyramid a silindr. Y bwriad oedd i'r strwythurau hyn troi ar wahanol raddfeydd o gyflymdra. Y ciwb i droi’n gylch cyfan mewn blwyddyn gron, y pyramid i droi’n gylch cyfan mewn mis a’r silindr unwaith y diwrnod.
Mae Tatlin hefyd yn cael ei gysylltu gyda chelfyddyd lluniadaeth wedi Chwyldro Rwsia gyda'i waith gwrth-gerfwedd (counter-relief), tri dimensiwn a wnaethpwyd o goed a dur.[7]
Creodd Tatlin y cerfluniau yma i gwestiynu syniadau traddodiadol celf, ni ystyriodd ei hun fel lluniadaethwr (constructivist) fel y cyfryw a gwrthwynebodd lawer o syniadau'r mudiad. Roedd lluniadaethwyr amlwg diweddarach yn cynnwys Varvara Stepanova, Alexander Rodchenko, Manuel Rendón Seminario, Joaquín Torres García, László Moholy-Nagy, Antoine Pevsner a Naum Gabo.
Er yn gyd-weithwyr ar y dechrau, cafodd Tatlin a Malevich ddadleuon ffyrnig ar adeg yr Arddangosfa 0.10 ym 1915 (ymhell cyn genedigaeth lluniadaeth) dros waith suprematist a arddangoswyd gan Malevich.
Claddwyd Tatlin ym mynwent Novodevichy, Moscow.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.