![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f7/%25D0%259A%25D1%2580%25D0%25B5%25D1%2581%25D1%2582_%25D1%2582%25D0%25B0%25D0%25BC%25D0%25BF%25D0%25BB%25D0%25B8%25D0%25B5%25D1%2580%25D0%25BE%25D0%25B2.png/640px-%25D0%259A%25D1%2580%25D0%25B5%25D1%2581%25D1%2582_%25D1%2582%25D0%25B0%25D0%25BC%25D0%25BF%25D0%25BB%25D0%25B8%25D0%25B5%25D1%2580%25D0%25BE%25D0%25B2.png&w=640&q=50)
Urdd y Deml
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o'r urddau milwrol Cristnogol oedd Urdd y Deml (Ffrangeg: Ordre du Temple), enw llawn Cyd-filwyr Tlawd Crist a Theml Solomon (Lladin: Pauperes commilitones Christi Templique Solomonici); cyfeirir atynt yn aml fel y Temlyddion.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | urdd filwrol grefyddol ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 22 Mawrth 1312 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 16 Ionawr 1120 ![]() |
Lleoliad | Bryn y Deml, Santi Maurizio e Lazzaro ![]() |
Yn cynnwys | Knight of the Order of the Temple ![]() |
Pennaeth y sefydliad | Grand Master of the Knights Templar ![]() |
Sylfaenydd | Hugues de Payens, Godfried van Sint-Omaars, André de Montbard ![]() |
Olynydd | Urdd Crist ![]() |
Pencadlys | Bryn y Deml ![]() |
Gwladwriaeth | Taleithiau'r Babaeth ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/03/Seal_of_Templars.jpg/320px-Seal_of_Templars.jpg)
Sefydlwyd yr Urdd yn dilyn y Groesgad Gyntaf yn 1096, gyda'r bwriad o sicrhau diogelwch y pererinion o Ewrop oedd yn teithio i Jeriwsalem wedi i'r Cristnogion feddiannu'r ddinas yn ystod y Groesgad. Cydnabyddwyd yr Urdd yn swyddogol gan yr Eglwys Gatholig tua 1129, a chynyddodd ei haelodaeth a'i grym yn gyflym. Bu gan farchogion yr Urdd ran amlwg yn y Croesgadau. Heblaw'r marchogion, roedd nifer fawr o aelodau eraill.
Wedi i'r Crisnogion golli Jeriwsalem, dechreuodd cefnogaeth i'r Urdd edwino. Manteisiodd Ffylip IV, brenin Ffrainc, oedd mewn dyled i'r Urdd, ar hyn, a phwysodd ar y Pab, Pab Clement V, i weithredu yn eu herbyn. Yn 1307, cymerwyd llawer o aelodau'r Urdd yn Ffrainc i'r ddalfa. Arteithiwyd llawer ohonynt nes iddynt arwyddo cyffesion, a dienyddiwyd nifer trwy eu llosgi. Yn 1312, cyhoeddodd y Pab fod yr Urdd yn cael ei dirwyn i ben.
Cedwir eu henw yn enw pentref Tredeml yn Sir Benfro.