![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f8/FISU_flag.svg/langcy-640px-FISU_flag.svg.png&w=640&q=50)
Universiade
recurring international multi-sport event, organized for university athletes / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cystadleuaeth aml-chwaraeon ryngwladol yw'r Universiade a drefnir gan y Ffederasiwn Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol (FISU) ar gyfer mabolgampwyr sy'n fyfyrwyr prifysgol. Cynhelir gemau'r haf a'r gaeaf pob dwy flynedd, mewn dinasoedd ar wahân. Mae'r Universiade hefyd yn ŵyl ddiwylliannol i geisio dathlu "ysbryd cyfeillgar a sbortsmonaeth".[1]
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon ![]() |
---|---|
Math | digwyddiad aml-chwaraeon, cystadleuaeth rhyngwladol ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1959 ![]() |
Yn cynnwys | Summer Universiade, Winter Universiade ![]() |
Enw brodorol | Universiade ![]() |
Gwefan | https://www.fisu.net/sport-events ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/19/FISU_flag2.svg/640px-FISU_flag2.svg.png)
Cynhaliwyd cystadlaethau rhyngwladol ar gyfer myfyrwyr ers dechrau'r 20g. Erbyn y 1950au roedd Undeb Rhyngwladol y Myfyrwyr (ISU) a FISU yn trefnu pencampwriaethau ar wahân: Gemau Prifysgol y Byd gan ISU, a'r Wythnosau Chwaraeon Prifysgol Rhyngwladol gan FISU. Cytunodd y ddau sefydliad i gefnogi mabolgampau yn Torino, yr Eidal, ym 1959. Rhoddwyd yr enw Universiade ar y gemau hyn, cyfuniad o'r geiriau Eidaleg università ac olimpiade.[2]