Awdures o'r Almaen yw Ulla Jelpke (ganwyd 9 Mehefin 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, gwleidydd ac awdur. Mae Jelpke yn aelod o Bundestag (neu Senedd) yr Almaen lle mae'n llefarydd materion domestig ar gyfer y blaid Die Linke ac mae'n cynrychioli'r blaid honno yn y pwyllgor materion mewnol a'r pwyllgor materion cyfreithiol.[1]
Ulla Jelpke | |
---|---|
Ganwyd | Ursula Jelpke 9 Mehefin 1951 Hamburg |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, gwleidydd, ysgrifennwr |
Swydd | Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bürgerschaft Hambwrg, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen |
Plaid Wleidyddol | The Left, Linkspartei.PDS, The Greens, Cynghrair Gomiwnyddol |
Gwefan | http://www.ulla-jelpke.de/ |
Fe'i ganed yn Hamburg ar 9 Mehefin 1951. Fel triniwr gwallt hyfforddedig a gwerthwr llyfrau, cafodd Jelpke ddiploma ysgol uwchradd ac yn ddiweddarach ac astudiodd gymdeithaseg ac economeg. O 2002 tan 2005, hi oedd yn arwain y ddesg materion domestig yn y papur newydd Junge Welt yn Berlin. Ers 2003 mae hi'n gyd-olygydd y cylchgrawn Ossietzky.[2][3][4][5] [6]
Roedd Jelpke yn aelod o'r Hamburgische Bürgerschaft (Senedd Hambwrg) ar gyfer y blaid, Rhestr Gwyrdd-Amgen, ddwywaith rhwng 1981 a 1989. Gan ddechrau o 1990, mae wedi bod yn aelod o'r Bundestags o'r 12fed - 14eg, 16eg a'r 17eg, yn y drefn honno.[1]
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, a bu'n aelod o Die Linke (Y Chwith), Plaid y Chwith.PDS, Y Gwyrddion a'r Gynghrair Gomiwnyddol.
Aelodaeth
Bu'n aelod o Bwyllgor Materion Mewnol am rai blynyddoedd. [7][8]
Anrhydeddau
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.