From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r term daearyddol Ucheldiroedd yr Alban (Gaeleg: A' Ghàidhealtachd 'Gwlad y Gael', Saesneg Highlands) yn cael ei arfer i ddisgrifio ardal fynyddig gogledd yr Alban sy'n gorwedd i'r gogledd ac i'r gorllewin o Rwyg Ffin yr Ucheldiroedd. Mae'r Glen Mawr yn gwahanu Mynyddoedd Grampian i'r de-ddwyrain oddi ar Ucheldiroedd Gogledd-orllewinol yr Alban.
Ychydig iawn o bobl sy'n byw yno gan fod tir cynhyrchiol yn brin a dominyddir y tirlun gan y cadwyni mynydd niferus. Mae'r dwysedd poblogaeth yn is ar gyfartaledd nag yn Sweden, Norwy, Papua Gini Newydd neu'r Ariannin. Ar un adeg, roedd y boblogaeth gryn dipyn yn fwy nag yw heddiw. Yn ystod ail hanner y 18g a hanner cyntaf y 19g, diboblogwyd yr Ucheldiroedd i raddau helaeth gan broses Clirio'r Ucheldiroedd. Gorfodwyd tenantiaid i ymadael a'u tyddynod, er mwyn gwnwud lle i wartheg a defaid.
Mae'r canolfannau gweinyddol yn cynnwys Inverness. Cyngor yr Ucheldiroedd yw'r corff gweinyddol ar gyfer tua 40% o'r ardal; rhennir y gweddill rhwng ardaloedd cyngor Aberdeenshire, Angus, Argyll a Bute, Moray, Perth a Kinross, a Stirling. Yn ogystal cyfrifir rhan ogleddol Ynys Arran fel rhan o'r Ucheldiroedd yn ddaearyddol, er ei bod yn cael ei gweinyddu gan gyngor Gogledd Swydd Ayr.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.