tŷ rhestredig Gradd II* yng Nghonwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Tŷ canoloesol yn nhref Conwy, Sir Conwy yw Tŷ Aberconwy. Mae'n enghraifft brin yng Nghymru o dŷ cerrig a phren canoloesol. Cafodd ei godi fel tŷ masnachwr yn y 14g.
Math | tŷ |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Lleoliad | Conwy |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 8.6 metr |
Cyfesurynnau | 53.2816°N 3.82847°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
Saif yr adeilad ar gornel Stryd y Castell a'r Stryd Fawr yng nghanol Conwy, gyferbyn i'r llyfrgell. Mae'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ar agor i'r cyhoedd. Ceir arddangosfeydd ar wahanol gyfnodau hanes Conwy ar y llawr cyntaf a siop yr Ymddiriedolaeth ar y llawr isaf.
Aberconwy oedd enw gwreiddiol Conwy a chafodd ei ddefnyddio fel enw'r dref o'r cyfnod cyn goresgyniad Tywysogaeth Cymru (1282-83) hyd y 19g pan ddechreuwyd defnyddio'r talfyriad 'Conwy'.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.