From Wikipedia, the free encyclopedia
Ystyr y term tueddu at rywbeth, yw closio neu ffafrio, gogwyddo neu symud tua rhyw gyfeiriad arbennig. Rhoi mwy o bwysau neu sylw i un ddadl na'r llall, felly yw tuedd, neu bias: ochri gydag un math o grefydd, un set o bobl, rhywedd, meddylfryd wleidyddol ayb. Ond mae'r gair 'tuedd' yn llawer hŷn na hyn, ac i'w gael yng Ngwaith Dafydd Benfras yn y 13g, pan oedd y gair yn cyfeirio at ardal, ffin, cyffiniau neu gyfeiriad.[1] Yr hyn sy'n gyffredin rhwng y ddau ystyr, yw'r syniad o 'ochr'. Yn yr Alban, ceir Afon Tuedd, ac fe'i lleolir ar y ffin rhwng yr Alban a Lloegr, man a elwir yn The Borders, yn Saesneg.
Yr hyn sy'n groes i duedd yw di-duedd, niwtraliaeth neu feddwl agored. Yn fras, cyfeiria'r erthygl hon at ddwy agwedd o'r gair: y fathemateg a'r ochr wleidyddol.
Mewn mathemateg, ac yn benodol, o fewn ystadegaeth, mae tuedd yn faes a astudir, ac a ddiffinir fel y "canlyniad sy'n wahanol i'r amcangyfrif a ddisgwylir".
Mewn geiriau eraill, mae ystadegyn yn 'dueddol os gaiff ei gyfrifo i fod yn eithaf gwahanol i baramedrau poblogaeth (neu'r paramedrau ystadegol) a gyfrifwyd. [Nodyn: 'paramedr ystadegol' yw maint, sy'n indecs o ddosbarthiad tebygolrwydd. Caiff ei ystyried fel rhif y boblogaeth (ystadegol) neu fodel ystadegol]. Dyma rai mathau:
Ceir hefyd duedd gwleidyddol, a ystyrir yn beth annheg, lle rhoddir mwy o bwysau ar un ochr y ddadl na'r llall, un blaid yn fwy na'r lleill. Ystyrir fod sylwebaeth y BBC ar faterion sy'n ymwneud â Chymru yn ochri fwy gyda'r status quo yn Lloegr, gan rai, er enghraifft y modd y maen nhw'n rhoi sylw i deulu brenhinol Lloegr, fel pe bai hynny'n haeddu sylw mewn gwlad arall sydd yn ei hanfod yn ddemocrataidd, sosialaidd.[5][6] Gan eraill, ystyrir fod tuedd y BBC yn erbyn datganoli'r Alban am y misoedd cyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 wedi cael effaith gref ar farn pobl.[7][8][9][10]
Gall cyflyru pobl, heb iddynt wybod hynny liwio eu barn, a chreu tuedd annheg o blaid neu yn erbyn rhywbeth neu rywrai. Effaith bias systematig, fel hyn, yw creu rhagfarn - barn sydd wedi'i blannu, dros amser ym meddyliau pobl a gellid dweud fod pobl fel hyn yn unllygeidiog a'u meddwl yn gaeedig. Yr hyn sy'n groes i duedd yw niwtraliaeth neu feddwl agored.
Ers dyfodiad cyhoeddi, a'r gallu i greu llyfrau, un set o bobl yn unig a oedd a'r sgiliau angenrheidiol i ddarllen eu gwaith, a'r cyfoeth i fforddio llyfrau. Ar hyd y canrifoedd, mae cyhoeddwyr wedi ceisio llywio barn pobl drwy eu cyhoeddiadau; felly hefyd ar y we a'r cyfryngau cymdeithasol heddiw.[11]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.