sant Cymreig o Ogledd Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Tudno (bl. 6g efallai) yw nawddsant Llandudno yng ngogledd Cymru. Ceir eglwys a gysegrwyd iddo ar Y Gogarth, ger Llandudno. Dethlir Ŵyl Mabsant ar 5 Mehefin.
Ychydig a wyddys amdano. Yn ôl traddodiad roedd yn un o saith mab Seithenyn, porthor llys Gwyddno Garanhir. Pan foddwyd Cantre'r Gwaelod oherwydd esgeulustra Seithenyn aeth ei feibion yn fynachod ym Mangor Is-Coed. Yno yn y clas roedd Tudno yn ddisgybl i Dunawd Sant.[1]
O Fangor Is-Coed aeth Tudno i Ben y Gogarth a sefydlodd eglwys yno a elwir Eglwys Tudno ar ei ôl. Ceir llefydd eraill cysylltiedig â'r sant ar y Gogarth, fel 'Ffynnon Tudno'. Yn ôl traddodiad roedd yn byw am gyfnod fel meudwy yn 'Ogof Llech'. Mae 'Crud Tudno' yn enw ar faen sigl ar y Gogarth yn ogystal.[2]
Enwyd dwy long ar ôl y sant, sef yr USS Tudno a'r St Tudno. Roedd yr olaf yn gweithio hyd dechrau'r 1960au ar y gwasanaeth fferi rhwng Llandudno ac Ynys Manaw.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.