From Wikipedia, the free encyclopedia
Anifail sy'n byw yng ngorllewin a chanolbarth Affrica yw Tsimpansî. Mae dwy rywogaeth hominid ohonynt ac maent yn aelodau o deulu'r epaod yn y genws Pan. Mae'r Afon Congo'n gwahanu'r ddwy rywogaeth:[1]
Tsimpansïaid | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primates |
Teulu: | Hominidae |
Is-deulu: | Homininae |
Llwyth: | Hominini |
Genws: | Pan Oken, 1816 |
Rhywogaethau | |
Pan troglodytes | |
Tiriogaeth Pan troglodytes (tsimpansî cyffredin) a Pan paniscus (bonobo, mewn coch) | |
Cyfystyron | |
Troglodytes E. Geoffroy, 1812 (preoccupied) |
Mae'r Tsimpansî'n aelod o deulu'r Hominidae, ynghyd â bodau dynol, gorilas ac orangwtangiaid. Cawsant eu hollti o linell y bod dynol oddeutu chwe miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Yr is-lwyth Panina yw perthynas agosaf bodau dynol ac mae'r ddau'n aelodau o'r llwyth Hominini. Dim ond y tsimpansî sydd yn yr is-lwyth Pamina, hyd y gwyddom.
Holltwyd y ddwy rywogaeth: y bonobo a'r tsimpansî oddi wrth ei gilydd tua miliwn o flynyddoedd CP.
Cofnodwyd yr enw "Chimpanze" am y tro cyntaf yn y cylchgrawn The London Magazine a hynny yn 1738,[2] a chredir iddo olygu "Mockman" yn iaith pobl o Angola (Ieithoedd Bantu o bosib), ac mae'n air o fewn yr iaith H Bantu: ci-mpenzi[3]). Ugain mlynedd wedyn fe'i sillafwyd fel Chimpanzee yn Cyclopædia, or an Universal Dictionary of Arts and Sciences.[4] Defnyddiwyd y bachigyn "chimp" am y tro cyntaf tua'r 1870au.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.