![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9d/Neptune%25E2%2580%2599s_Moon_Triton_Fosters_Rare_Icy_Union_%2528gemini1903a%2529_square.jpg/640px-Neptune%25E2%2580%2599s_Moon_Triton_Fosters_Rare_Icy_Union_%2528gemini1903a%2529_square.jpg&w=640&q=50)
Triton (lloeren)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Triton ydy'r seithfed a'r fwyaf o loerennau Neifion.
- Cylchdro: 354,760 km o Neifion
- Tryfesur: 2700 km
- Cynhwysedd: 2.14e22 kg
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | lleuad o'r blaned Neifion, irregular moon ![]() |
---|---|
Màs | 21.39 ±0.03 ![]() |
Dyddiad darganfod | 10 Hydref 1846 ![]() |
Yn cynnwys | Atmosphere of Triton ![]() |
Echreiddiad orbital | 0 ![]() |
Radiws | 1,353.4 ±0.9 cilometr ![]() |
![]() |
Ym mytholeg y Groegiaid y mae Triton yn dduw môr ac yn fab i Poseidon (Neifion).
Cafodd y lloeren Triton ei darganfod gan Lassel ym 1846 dim ond ychydig wythnosau ar ôl darganfyddiad Neifion. Cafodd Triton ymweliad gan Voyager 2 ar y 25ain o Awst 1989.
Mae cylchdro Triton yn wrthdroadwy. Triton yw'r unig loeren fawr sy'n cylchdroi 'wysg ei gefn', dim ond lloerennau bach Iau (Ananke, Carme, Pasiphae a Sinope) a Phoebe (lloeren fach Sadwrn) sydd hefyd yn cylchio 'wysg ei gefn', pob un ohonynt yn llai na 1/10 tryfesur Triton. Am hynny rhaid i Driton wedi cael ei dal gan Neifion ar ôl dod o rywle arall, efallai o Wregys Kuiper. O achos natur anarferol cylchdro Triton, mae rhyngweithiadau rhwng Neifion a Thriton yn dwyn egni ymaith oddi wrth Driton gan achosi iddi ostwng ei chylchdro. Rhywdro yn y dyfodol pell bydd Triton yn cael ei chwalu ac unai'n ffurfio modrwy neu yn syrthio i mewn i Neifion.
Oherwydd ei gogwyddiad mae pegynau a chyhydedd Triton yn wynebu'r Haul bob yn ail. Mae ganddi awyrgylch tenau o nitrogen gyda methan. Mae ganddi nudd denau sy'n ymestyn 5–10 km i fyny.
Mae tymheredd arwyneb Triton yn 34.5 K (-235 C), mor oer â Plwton. Mae hynny oherwydd ei halbedo uchel (.7 - .8) sy'n golygu fod ychydig iawn o olau haul yn cael ei sugno. Yn y fath oerni mae methan, nitrogen a charbon deuocsid yn cael eu rhewi'n soled.