Neifion (planed)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Neifion (symbol: ) yw'r wythfed blaned oddi wrth yr Haul. Mae Neifion yn llai ei thryfesur nag Wranws ond yn fwy ei chrynswth. Hi yw'r lleiaf, yr oeraf a'r bellaf o'r pedair blaned fawr a elwir yn gewri nwy – er y byddai cewri rhew yn well disgrifiadau o Wranws a Neifion am fod y nwyon, sydd â'r rhan amlycaf yn eu cyfansoddiad, wedi rhewi'n gorn bron i gyd.
- Cylchdro: 4,504,000,000 km (30.06 o Unedau Seryddol) oddi wrth yr Haul.
- Tryfesur: 49,532 km (ar ei chyhydedd)
- Cynhwysedd: 1.0247e26 kg
Duw yr eigion yw Neifion ym mytholeg Rufeinig.
Gwelwyd y blaned Neifion gan y seryddwr Galileo yn 1612, ond camdybiodd ei fod e'n edrych ar blaned, gan gymryd ei bod yn seren.