![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/24/Blue_Flag_Logo.svg/langcy-640px-Blue_Flag_Logo.svg.png&w=640&q=50)
Traeth baner las
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae traeth baner las yn draeth morol neu ddŵr croyw adloniadol sy'n ateb gofynion llym o ran safonau'r dŵr trwy gydol y cyfnod nofio blaenorol. Rhoddir statws baner las i farinas hefyd.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/24/Blue_Flag_Logo.svg/320px-Blue_Flag_Logo.svg.png)
Rhoddir statws baner las i draethau mewn dros 30 o wledydd yn Ewrop, De Affrica, Seland Newydd, Canada a'r Caribi yn seiliedig ar safonau a meini prawf a osodir ac a reolir gan y mudiad di-elw, Sefydliad dros Ymgyrch Addysgu Amgylcheddol (Sa:Foundation for Environmental Education (FEE) Campaign).
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a8/Blaue_Flagge_hr_2007.jpg/640px-Blaue_Flagge_hr_2007.jpg)
Rhaid i draeth sy'n ateb gofynion statws draeth las sicrhau safon glendid y dŵr, diogelwch, darpariaeth gwasanaethau a rheolaeth amgylcheddol cyffredinol. Darperir cyfleoedd nofio glân a diogel mewn awyrgylch di-gŵn.
Dynoda'r hawl i hedfan Baner Las ar draeth neu ddyfroedd adloniadol fod safonau amgylcheddol uchel yno a chaiff ei ystyried yn bluen yng nghap awdurdodau lleol a darparwyr cyfleusterau adloniadol ar y dŵr.
Yn 2008, roedd gan Sbaen 455 o draethau baner las, tra bod gan Gwlad Groeg 430 a Twrci 258. Mae yna 41 o draethau yng Nghymru sydd wedi derbyn statws baner las.[1]