Trương Tấn Sang
From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlywydd presennol Fietnam ydy Trương Tấn Sang (ganwyd 21 Ionawr, 1949). Cafodd ei ethol ar 25 Gorffennaf, 2011 ac mae hefyd yn uwch swyddog yn y Politbiwro. Ef oedd ysgrifennydd [[Plaid Gomiwnyddol Fietnam yn Ninas Ho Chi Minh rhwng 1996 a 2000. Fel yn yr India, mae'r arlywyddiaeth yn swydd seremonïol o fewn gwleidyddiaeth Fietnam gan mai'r prif weinidog sy'n rheoli materion y llywodraeth.