![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7f/Toulouse_-_View_on_Saint_Sernin.jpg/640px-Toulouse_-_View_on_Saint_Sernin.jpg&w=640&q=50)
Toulouse
tref yn Ocsitania / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn Ocsitania yw Toulouse (Ocitaneg: Tolosa /tuˈluzɔ/), yn département Haute-Garonne a région Occitanie. Tolosa yw prifddinas y région honno, a hi hefyd oedd prifddinas région Midi-Pyrénées a ddiddymwyd yn 2016. Yn 2007, roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 443,103 a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 1,117,000, gan wneud Toulouse y bedwaredd dinas yn Ffrainc o ran poblogaeth, ar ôl Paris, Marseille a Lyon. Mae'r boblogaeth yn tyfu'n gynt nag unrhyw ddinas fawr arall yn Ewrop. Saif y ddinas ar Afon Garonne.
![]() | |
![]() | |
Math | cymuned, dinas fawr, tref goleg ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 504,078 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Jean-Luc Moudenc ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ocsitania ![]() |
Sir | Haute-Garonne |
Gwlad | ![]() ![]() |
Arwynebedd | 118.3 km² ![]() |
Uwch y môr | 141 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Garonne ![]() |
Yn ffinio gyda | Fenouillet, Aucamville, Balma, Blagnac, Colomiers, Cugnaux, Labège, Launaguet, Pechbusque, Portet-sur-Garonne, Quint-Fonsegrives, Ramonville-Saint-Agne, Saint-Orens-de-Gameville, Tournefeuille, L'Union, Vieille-Toulouse ![]() |
Cyfesurynnau | 43.6044°N 1.4439°E ![]() |
Cod post | 31000, 31100, 31200, 31300, 31400, 31500 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Toulouse ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Jean-Luc Moudenc ![]() |
![]() | |
Yn Nhoulouse mae prif ganolfan cwmni Airbus, ac mae llawer o ddiwydiannau technolegol eraill wedi datblygu yma. Ym maes chwaraeon, Rygbi'r Undeb sydd fwyaf poblogaidd yn yr ardal, ac mae tîm rygbi Toulouse, Stade Toulousain, ymhlith y cryfaf yn Ewrop. Ymhlith pobl enwog o Toulouse mae rhai o chwaraewyr rygbi amlycaf Ffrainc, megis Jean-Pierre Rives, David Skrela, Fabien Pelous a Frédéric Michalak.