Dinas yn Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas a sir seremonïol yn Ne-orllewin Lloegr yw Bryste (Saesneg: Bristol); y sillafiad yng ngherddi'r bardd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yw Brysto[1]. Fe'i hadnabyddid hefyd fel Caerodor neu Caer Odor yn Gymraeg (gyda'r gair "odor" yn golygu "bwlch") . Mae'n agos i Fôr Hafren a phontydd Hafren ac fe'i lleolir 71 km i'r dwyrain o Gaerdydd. Mae Bryste ar ffin siroedd Caerloyw a Gwlad yr Haf, gydag Afon Avon yn eu gwahanu.
Math | dinas, dinas fawr, dinas â phorthladd, city of United Kingdom |
---|---|
Ardal weinyddol | Avon, Dinas Bryste |
Poblogaeth | 472,465 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Marvin Rees |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 109.6 km² |
Uwch y môr | 11 metr |
Gerllaw | Afon Hafren, Afon Gwy, Afon Avon |
Cyfesurynnau | 51.4536°N 2.5975°W |
Cod post | BS |
Pennaeth y Llywodraeth | Marvin Rees |
Mae'r enw 'Bryste' yn dod o'r Hen Saesneg Brycgstow "lle'r bont". Mae'r "l" ar ddiwedd y ffurf Saesneg yn tarddu o un o nodweddion tafodiaith Saesneg Bryste, sef ychwanegu "l" weithiau ar ddiwedd geiriau sy'n gorffen gyda llafariad.
Mae'r ddinas wedi datblygu yn bennaf fel porthladd ac roedd masnachu caethweision yn bwysig iawn ar un adeg. Yn y 18g roedd Bryste'n ganolfan bwysig ar gyfer gwaith porslen ac yn cystadlu yn y farchnad honno â gweithfeydd Plymouth a Dresden.
Mae pont grog enwog ym Mryste, Pont Grog Clifton, ar draws Afon Avon, a adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel.
Mae Bryste'n unigryw gan fod ganddo statws sirol ers y canoloesoedd. Yn 1835 ehangwyd y ffiniau er mwyn cynnwys treflanau megis Clifton ac roedd yn fwrdeistref sirol ym 1889 pan ddefnyddiwyd y term hwn am y tro cyntaf.[2] [3] Ar 1 Ebrill 1996, adenillodd ei statws fel sir (neu "swydd") pan ddiddymwyd yr enw "Swydd Avon" a daeth yn swydd unedol.[4]
Rhennir y sir yn chwe etholaeth seneddol yn San Steffan. At ddibenion gweinyddol mae'n dal i gael ei restru fel rhan o'r hen sir Avon.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.