![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1c/Hypholoma_fasciculare_LC0091.jpg/640px-Hypholoma_fasciculare_LC0091.jpg&w=640&q=50)
Torth felen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Math a rhywogaeth o ffwng yn nheulu'r Strophariaceae yw'r Torth felen (Lladin: Hypholoma fasciculare; Saesneg: Sulphur Tuft) sy'n tyfu mewn coedlannau.[1] Y Torthau yw'r enw ar lafar ar y grwp mae'r ffwng yma'n perthyn iddo, ond nid yw'n derm gwyddonol. Lluosog torth (o fara) yw 'torthau', gair a gofnodir yn gyntaf yn y 9g. Ceir enw Cymraeg arall ar y rhywogaeth hon, sef Torthau'r tylwyth teg. Mae'r teulu Strophariaceae yn gorwedd o fewn urdd yr Agaricales.
Torth felen Hypholoma fasciculare | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Fungi |
Dosbarth: | Basidiomycota |
Urdd: | Agaricales |
Teulu: | Strophariaceae |
Genws: | Hypholoma[*] |
Rhywogaeth: | Hypholoma fasciculare |
Enw deuenwol | |
Hypholoma fasciculare (Huds.) P.Kumm. | |
Mae'n chwerw a gwenwynig; gall ei fwyta achosi chwydu, dolur rhydd a chonfylsiynau. Y prif docsin yn steroid o'r enw 'fasciculol E'.
Mae'r rhywogaeth hon o ffwng i'w chael yn Ewrop a Gogledd America ac yn tyfu pan nad oes yr un fadarchen arall i'w gweld yn unman. Mae'n tyfu'n aml mewn clystyrau mawr ar fonion, gwreiddiau marw neu foncyffion pydredig coed llydanddail.
Lliw sborau'r fadarchen hon yw brown. O ran siâp, disgrifir y capan, neu gap y fadarchen fel un amgrwm. Gelwir y rhan oddi tan y capan yn hadbilen (neu'n 'hymeniwm') a cheir sawl math: arwyneb llyfn, tegyll, chwarennau (tyllau bychan), rhychau ayb; mae gan y fadarchen hon yr hyn a elwir yn: tegyll. O ran y broses o gymeryd maeth, fe'i disgrifir fel maethiad saproffytig.