Torra di Giottani
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Tŵr Giottani (Corseg:Torra di Giottani Ffrangeg Tour de Giottani) yn dŵr Genoa adfeiliedig sydd wedi ei leoli yn commune Barrettali, ar arfordir gogleddol ynys Corsica.[1]. Lleolir y tŵr hwn ar ran orllewinol Cap Corse. Mae'n sefyll ar bentir creigiog bach 50 metr uwchben porthladd bach Giottani.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Barrettali |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Cyfesurynnau | 42.8676°N 9.3396°E |
Cau
Dim ond y sylfaen sydd ar uchder sy'n amrywio o 1 i 3 metr sydd wedi goroesi. Mae'n dŵr crwn ac yn wreiddiol byddai iddi dwy lefel. Fe'i hadeiladwyd ym 1552 yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[2]