From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Tŵr Finochjarola (Corseg: Torra di Finochjarola) yn dŵr Genoa adfeiliedig yng Nghorsica, wedi ei leoli ar ynys Finochjarola, yn commune Rogliano (Haute-Corse). Mae'r tŵr yn sefyll ychydig i'r gogledd-ddwyrain o borthladd Macinaghju. Mae Ynysoedd Finochjarola wedi'u dynodi'n warchodfa natur ers 1987 ac wedi eu cynnwys yng ngwarchodfa ehangach Cap Corse ers 2017. Oherwydd sefyllfa fregus bywyd gwyllt yr ynysoedd ni chaniateir glanio arnynt gan aelodau'r cyhoedd. Gan hynny nid oes modd ymweld ag adfeilion y tŵr ond mae modd cael golwg da ohoni ar daith môr.
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Cyfesurynnau | 42.98°N 9.47°E |
Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1]. Mae'r tŵr, sy'n agored i wyntoedd uchel a chwistrelliadau'r tonnau, mewn cyflwr gwael iawn. Mae ei hochr gogledd-ddwyreiniol wedi cwympo yn rhannol.[2]. Mae'r tŵr a'i hynys dan ofal Conservatoire du littoral
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.