tŵr Geno yng Nghorsica From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Tŵr de Castellare (Corseg:Torra di Castellare Ffrangeg:Tour de Castellare) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Pietracorbara ar arfordir dwyreiniol ynys Corsica.
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pietracorbara |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Cyfesurynnau | 42.83°N 9.48°E |
Adeiladwyd y tŵr rhwng 1550 a 1575 ar gais Marcu de Gentile, aelod o deulu arglwyddiaeth Gentile, ar safle amddiffynfa hynafol. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoarhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Yn nogfennau Genoese, gelwir y tŵr yn Dŵr Ampuglia sef Tŵr yr Eryr.[2]
Roedd ei safle ar bentir creigiog, 127 metr uwchben y dŵr yn caniatáu iddo ddominyddu'r môr ger Pietracorbara. Fe'i gwarchodwyd gan garrison o torregiani o bentref Pietracorbara. Dim ond rhan o'r sylfaen sgwâr sydd wedi goroesi.[3]. Mae gan y tŵr storfa wedi ei adeiladu wrth ei ymyl. Mae'r waliau yn 2.5 medr o drwch ac roedd yr adeilad yn 13.5 medr o hyd a 6.5 medr o led.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.