![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/b/b4/Tinkinswood.jpg/640px-Tinkinswood.jpg&w=640&q=50)
Tinkinswood
From Wikipedia, the free encyclopedia
Siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig ym Mro Morgannwg yw Siambr Gladdu Tinkinswood, a adwaenir hefyd fel Castell Carreg, Llech-y-Filiast a Maes-y-Filiast. Saif ychydig i'r de o bentref Sain Nicolas, i gyfeiriad Llwyneliddon.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | cromlech, safle archaeolegol, beddrod siambr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bro Morgannwg ![]() |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.451316°N 3.307124°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM009 ![]() |
Cau
Mae'r siambr gladdu o'r math Hafren-Cotswold, sef carnedd gellog gyda charreg glo enfawr, yn pwyso tua 36 tunnell fetrig, efallai y fwyaf yn Ewrop. Fe'i hadeiladwyd tua 4000 CC. Cloddiwyd y safle yn 1914, a chafwyd gweddillion tua 40 neu fwy o bobl, o'r ddau ryw ac o bob oed, ynghyd â chrochenwaith. Codwyd colofn o frics i ddiogelu'r garreg glo yr un pryd. Mae'r safle yng ngofal Cadw.
Rhagor o wybodaeth Beddrodau Hafren-Cotswold yng Nghymru ...
Beddrodau Hafren-Cotswold yng Nghymru | ![]() | |
---|---|---|
Cau