From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Seisnig, Aelod Seneddol dros etholaeth Westmorland a Lonsdale ac arweinydd Y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Tŷ'r Cyffredin rhwng 2015 a 2017 yw Timothy James 'Tim' Farron (ganwyd 27 Mai 1970).[1] Bu'n Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2011 a 2014.[2][3] Ymddiswyddodd Farron fel arweinydd y blaid ar 14 Mehefin 2017.[4]
Tim Farron | |
---|---|
Farron yn 2014 | |
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 16 Gorffennaf 2015 | |
Dirprwy | TBC |
Rhagflaenwyd gan | Nick Clegg |
Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol | |
Yn ei swydd 1 Ionawr 2011 – 31 December 2014 | |
Arweinydd | Nick Clegg |
Rhagflaenwyd gan | Y Farwnes Rosalind Scott |
Dilynwyd gan | Y Farwnes Sarah Brinton |
Aelod o seddi blaen y Democratiaid Rhyddfrydol Llefarydd y Dem. Rh. dros yr Amgylchedd | |
Yn ei swydd 18 Rhagfyr 2007 – 13 Mai 2010 | |
Arweinydd | Nick Clegg |
Rhagflaenwyd gan | Chris Huhne |
Dilynwyd gan | Diddymwyd |
AS dros Westmorland a Lonsdale | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 5 Mai 2005 | |
Rhagflaenwyd gan | Tim Collins |
Mwyafrif | 8,949 (18.3%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Timothy James Farron 27 Mai 1970 Preston, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr |
Cenedligrwydd | Prydeiniwr |
Plaid wleidyddol | Democratiaid Rhyddfrydol |
Priod | Rosie Farron |
Plant | 2 ferch 2 fab |
Alma mater | Prifysgol Newcastle |
Swydd | Gwleidydd |
Galwedigaeth | Athro |
Ganwyd Farron ym Mhreston, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Lostock Hall a Choleg Runshaw, Leyland, Lloegr; ymunodd gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol pan oedd yn 16 oed. Cafodd ei dderbyn fel myfyriwr ym Mhrifysgol Newcastle lle derbyniodd radd BA mewn gwleidyddiaeth yn 1992. Bu'n Llywydd Undeb y Myfyrwyr yno - yr aelod cyntaf o'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddal y swydd ac etholwyd ef i'r pwyllgor cenedlaethol yn 1990.[5]
Gweithiodd ym Mhrifysgol Swydd Gaerhirfryn rhwng 1992–2002 a St. Martin's College, Ambleside, rhwng 2002-5.
Ymladdodd etholaeth North West Durhamyn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 gan ddod yn drydydd - 20,006 o bleidleisiau y tu ôl i Hilary Armstrong AS dros y Blaid Lafur.
Etholwyd ef yn gynghorydd sir ar Gyngor Swydd Gaerhirfryn rhwng 1993 a 2000.
Bu'n aflwyddiannus yn Etholiad Senedd ewrop yn 1999 ond yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005 enillodd gyda mwyafrif ysig o 267 pleidlais.[6]
Cafodd ysbaid yn ysgrifennydd personol i Menzies Campbell ac yn 2007 fe'i penodwyd yn Llefarydd Materion Mewnol y Democratiaid Rhyddfrydol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.