mathemategydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Thomas Jones (23 Mehefin 1756 – 18 Gorffennaf 1807) oedd Prif Diwtor Coleg y Drindod, Caergrawnt, am ugain mlynedd ac athro mathemateg enwog yn ei ddydd. Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel athro'r daearegwr Adam Sedgwick.
Thomas Jones | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mehefin 1756 Aberriw |
Bu farw | 18 Gorffennaf 1807 Edgware Road |
Man preswyl | Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mathemategydd |
Credir ei fod yn fab llwyn a pherth Owen Owen Tyn y Coed, a'i forwyn. Ychydig wedyn priododd y forwyn gyda Mr Jones o Traffin, Swydd Kerry ac a fagodd Thomas Jones fel petae'n fab iddo'i hun.[1]
Roedd yn frodor o Aberriw, Sir Drefaldwyn. Wedi cwbwlhau ei astudiaethau yn yr ysgol uwchradd yn yr Amwythig, cafodd ei dderbyn yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt a chychwynodd yno ar 28 Mai 1774.[1]
Ar 27 Mehefin 1776, symudodd Jones o Goleg Sant Ioan i Goleg y Drindod, Caergrawnt, gan dderbyn gradd BA yn 1779 ac MA yn 1782. Fe'i gwnaed yn Ddirprwy Ddeon yn 1787–1789 ac yn Diwtor rhwng 1787-1807. Fe'i gwnaed yn Offeiriad ar y 6ed o Fehefin 1784, yn Ely, Caergrawnt ac Gannon Fen Ditton, Caergrawnt yn 1784, a Swaffham Prior, yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno.
Fe'i claddwyd ym mynwent Coleg Dulwich, yn ne-ddwyrain Llundain a cheir cerflun ohono yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.