clerigwr From Wikipedia, the free encyclopedia
Clerigwr Methodistaidd enwog, addysgwr a diwinydd oedd Thomas Charles o'r Bala (14 Hydref 1755 – 5 Hydref 1814), a aned yn Llanfihangel Abercywyn, Sir Gaerfyrddin.
Thomas Charles | |
---|---|
Ganwyd | 14 Hydref 1755 Sir Gaerfyrddin |
Bu farw | 5 Hydref 1814 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | clerig |
Tad | Rees Charles |
Mam | Jael Bowen |
Priod | Sarah Charles |
Plant | Thomas Rice Charles |
Roedd Thomas Charles o'r Bala yn frawd i David Charles, yr emynydd. Fe'i haddysgwyd yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin, Caerfyrddin, a Rhydychen. Ar ôl cyfnod yn offeiriad Anglicanaidd yng Ngwlad yr Haf priododd Sally Jones o'r Bala a symudodd i fyw yn y dref honno yn 1783. Yn 1784 ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd a threuliodd weddill ei oes yn gweinidogaethu yn eu plith.
Ysgrifennai Thomas Charles yn y Gymraeg a'r Saesneg. Llyfrau hyfforddiadol i blant oedd ei waith cyntaf yn y Gymraeg. Yn Saesneg y cyhoeddodd ei lyfr Welsh Methodists Vindicated, sy'n amddiffyn y Methodistiaid rhag ymosodiadau gan elfennau ceidwadol yn Eglwys Loegr.
Ei waith llenyddol pwysicaf oedd ei eiriadur ysgrythurol a gyhoeddwyd mewn pedair cyfrol (1805, 1808, 1810, 1811) yn wreiddiol ac a adargraffwyd sawl gwaith yn ystod y 19g. Yn ogystal â chyfleu llawer o wybodaeth newydd am cefndir hanesyddol yr Ysgrythurau, mae Charles yn trafod cysyniadau diwinyddol hen a newydd mewn arddull goeth, gaboledig.
Yn ogystal gweithiodd am flynyddoedd ar y gwaith o baratoi Beibl Cymraeg newydd, ar ran Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol. Cafodd gymorth sylweddol gan Thomas Jones, Dinbych a Robert Jones, Rhos-lan.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.