![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/00/Thomas_Carlyle_lm.jpg/640px-Thomas_Carlyle_lm.jpg&w=640&q=50)
Thomas Carlyle
Traethodydd, hanesydd ac athronydd o'r Alban (1795-1881) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Hanesydd, traethodydd, a bywgraffydd Albanaidd oedd Thomas Carlyle (4 Rhagfyr 1795 – 5 Chwefror 1881). Efe oedd prif feirniad diwylliannol yr oes Fictoriaidd, a dylanwadodd ar nifer o feirniad iau y cyfnod, gan gynnwys Matthew Arnold a John Ruskin. Dadleuodd o blaid arweinyddiaeth dadol a chryfder yr arwr, gan feirniadu damcaniaeth laissez-faire a llywodraeth seneddol. Mae ganddo arddull hynod o nodweddiadol: "cyfuniad o ymadroddion beiblaidd, geiriau gwerin, ystumiadau Tiwtonaidd, a bathiadau ei hunan, yn nhrefn yr annisgwyl".[1]
Thomas Carlyle | |
---|---|
![]() Ffotograff o Thomas Carlyle, tua'r 1860au. | |
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1795 ![]() Ecclefechan ![]() |
Bu farw | 5 Chwefror 1881 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Yr Alban, Teyrnas Prydain Fawr ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, hanesydd llenyddiaeth, hanesydd, cyfieithydd, mathemategydd, athronydd, awdur ysgrifau, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, nofelydd, athro ![]() |
Swydd | Rector of the University of Edinburgh ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Sartor Resartus, On Heroes, Hero-Worship and the Heroic in History ![]() |
Mam | Margaret Aitken Carlyle ![]() |
Priod | Jane Welsh Carlyle ![]() |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Pour le Mérite ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ganwyd yn Ecclefechan, Swydd Dumfries, i deulu mawr o Galfiniaid. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Annan a Phrifysgol Caeredin, ac yno ymddisgleiriodd ym maes mathemateg. Cychwynnodd ar ei yrfa yn diwtor, ysgolfeistr, a newyddiadurwr. Darllenodd lyfr Germaine de Staël ar yr Almaen, gan fagu ynddo ddiddordeb yn llenyddiaeth ac athroniaeth Almaenig. Ymhlith ei weithiau cynnar mae Life of Schiller (1823) a'i gyfieithiad o Wilhelm Meister (1824) gan Goethe.
Priododd Jane Baillie Welsh ym 1826. Cyhoeddodd ei hunangofiant ysbrydol, Sartor Resartus, yng nghylchgrawn Fraser's ym 1833–34, cyn iddo symud i fyw yn Llundain. Ysgrifennodd hanes y Chwyldro Ffrengig (1837), traethawd ar Siartiaeth (1839), casgliad o'i ddarlithoedd dan y teitl On Heroes, Hero-Worship, and The Heroic in History (1841), golygiad o lythyrau ac areithiau Cromwell (1845), a bywgraffiad Ffredrig Fawr (1858–65).
Bu farw ei wraig ym 1866, ac ar ddiwedd ei fywyd cafodd Carlyle ei weld yn broffwyd hen ffasiwn. Claddwyd ym Mynwent Ecclefechan.