![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/34/Spirale_Ulam_150.jpg/640px-Spirale_Ulam_150.jpg&w=640&q=50)
Damcaniaeth rhifau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cangen o fathemateg bur yw damcaniaeth rhifau (neu theori rhif), sef yr astudiaeth o briodweddau rhifau. Cyfanrifau yw canolbwynt y maes, ond fe gyfyd problemau ehangach wrth eu hastudio, sy'n cysylltu damcaniaeth rhifau â sawl cangen arall o fathemateg. Dywedodd y mathemategydd Carl Friedrich Gauss (1777-1855), "Mathemateg yw Brenhines y gwyddorau - a theori rhif yw Brenhines mathemateg."[1] Mae maes damcaniaethwyr rhif yn cynnwys rhifau cysefin, nodweddion gwrthrychau a wnaed o rifau cymarebol a chyfanrifau alegbraidd.
Enghraifft o'r canlynol | maes o fewn mathemateg ![]() |
---|---|
Rhan o | mathemateg, Mathemateg bur ![]() |
![]() |
Ni ddylid cymysgu damcaniaeth rhifau a rhifyddeg elfennol, sef dulliau o adio, tynnu, a lluosi. Hyd at ddechrau'r 20g y term a ddefnyddiwyd am y ddamcaniaeth rhifau oedd "rhifyddeg".
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/34/Spirale_Ulam_150.jpg/640px-Spirale_Ulam_150.jpg)
Yr hen derm am theori rhif yw rhifyddeg. Erbyn dechrau'r 20g, roedd "theori rhif" wedi disodli'r term hwn. Defnyddir y gair "rhifyddeg" gan y cyhoedd i olygu "cyfrifiadau elfennol"; mae hefyd wedi caffael ystyron eraill mewn rhesymeg fathemategol, fel gyda rhifyddeg Peano, a gwyddoniaeth gyfrifiadurol, rhifyddeg pwynt arnofio. Adferwyd y defnydd o'r term rhifyddeg ar gyfer theori rhif am ychydig yn ail hanner yr 20g, yn rhannol oherwydd dylanwad Ffrainc.