Theatr Gwynedd
cyn-theatr ym Mangor, Gwynedd, Cymru (1975-2008) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Theatr yn ninas Bangor, Gwynedd, oedd Theatr Gwynedd. Cafodd ei sefydlu yn nyddiau'r hen Wynedd i wasanaethu gogledd y sir (yn cynnwys Ynys Môn). Bu'n weithredol rhwng 1975 a 2008[1], fe gafodd yr adeilad ei dymchwel er mwyn gwneud lle i ganolfan newydd Pontio. Arianwyd Theatr Gwynedd yn rhannol gan Prifysgol Bangor ond daeth ei dyfodol yn y fantol ar ddechrau'r 2000au am nad oedd y brifysgol yn barod i barhau â'r hen drefniant ariannu.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | theatr, sinema |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bangor |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.227644°N 4.128864°W |
Cau
Yn ogystal â bod yn theatr lwyfan a chartref i Theatr Bara Caws, roedd Theatr Gwynedd yn sinema a chanolfan arddangosfeydd.